Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn wynebu 'cyfnod anodd'
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon mae'r trefnwyr yn rhybuddio eu bod yn wynebu "cyfnod anodd" a bod rhaid i'r 诺yl fod yn fwy "modern a pherthnasol".
Mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal yn flynyddol yn y dref yn Sir Ddinbych ers 70 mlynedd, gan ddenu 40,000 o ymwelwyr y llynedd.
Ond mae eu datganiad ariannol diweddaraf yn dangos bod y diffyg cyllidol wedi cynyddu'r llynedd oherwydd gwerthiant siomedig o docynnau i rai cyngherddau nos.
Fe gollodd yr 诺yl ei Chyfarwyddwr Cerdd, y pianydd Vicky Yannoula, y llynedd hefyd ar 么l blwyddyn yn unig yn y swydd.
Wrth i Eisteddfod agor eleni, dywedodd y cadeirydd Dr Rhys Davies wrth 大象传媒 Cymru: "Bydd yn anodd iawn.
"'Da ni wedi cael problemau y llynedd so gobeithio bydd popeth yn olreit. Ond mae'n rhaid i ni newid be 'da ni'n wneud yma yn Llangollen.
"Os 'da ni ddim yn newid, dwi'n si诺r bydd popeth yn mynd yn waeth. Rhaid i ni ddenu mwy o bobl i'r Eisteddfod."
Gwerthiant 'siomedig'
Dywedodd Dr Davies hefyd fod gwerthiant tocynnau eleni wedi bod yn siomedig o araf, er bod pethau wedi gwella yn yr wythnosau diwethaf.
Fe gafodd yr Eisteddfod Ryngwladol ei sefydlu yn nyffryn Dyfrdwy yn fuan ar 么l yr Ail Ryfel Byd.
Ers hynny, mae wedi denu cerddorion a dawnswyr yn bennaf i gystadlu o bedwar ban byd, a hynny yn enw heddwch.
Bellach, mae'r 诺yl hefyd yn cynnig rhaglen o gyngherddau nos a g诺yl roc Llanfest ar y Sul olaf.
Ond yn 么l eu datganiad ariannol yn 2018 fe gynyddodd y diffyg cyllidol o 拢5,860 yn 2017 i 拢21,127 yn 2018.
Mae'r ddogfen yn nodi bod yr ymddiriedolwyr yn "ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau ariannol llym fydd eu hangen yn y blynyddoedd nesaf" a'u bod am fonitro pethau'n ofalus i sicrhau bod yr Eisteddfod yn gynaliadwy.
Mae'r 诺yl wedi derbyn 拢75,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda marchnata dros y tair blynedd nesaf ac mae'r trefnwyr yn dweud eu bod yn trafod cyllid ychwanegol gyda'r llywodraeth a phartneriaid eraill.
Ers ymadawiad Ms Yannoula mae'r Eisteddfod Ryngwladol hefyd wedi penodi Dr Edward Rhys Harry fel Cyfarwyddwr Cerdd newydd.
Ychydig o newid sydd wedi ei gyflwyno eleni, ond yn 么l Dr Harry gallai'r newid yn y blynyddoedd nesaf gael ei ystyried yn "radical".
"Bydd rhaid i ni fel g诺yl foderneiddio i wneud yn si诺r bod pobl yn dod i weld beth sy'n digwydd yma," meddai.
"Bydd rhaid i ni fod yn contemporary a hefyd bydd rhaid i ni gydbwyso'r pethau hynny gyda'r pethau traddodiadol ac ar hyn o bryd dyna beth yw'r drafodaeth yma yn Llangollen.
"Mae newid yn boenus i bawb ac felly i fod yn onest bydd rhaid i'r newid ddod. Ond bydd rhaid i ni newid yn llym ac wrth gamau bach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017