Cynllun delio 芒 gwylanod yn gweithio, medd cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae "llai o gwynion" am wylanod yn Sir Ddinbych flwyddyn ar 么l cyflwyno strategaeth i ddelio 芒'r adar, yn 么l un o uwch swyddogion y cyngor sir.
Dros y misoedd diwethaf mae'r awdurdod lleol wedi gosod mesurau i geisio cyfyngu ar bresenoldeb yr adar yn nhrefi glan m么r yr ardal.
Canolbwynt yr ymdrechion ydy'r Rhyl, lle mae biniau newydd wedi cael eu gosod.
Yn 么l Emlyn Jones, pennaeth cynllunio'r cyngor, mae'r lleihad yn dangos bod y sir yn "gwneud be' fedrwn ni i daclo'r broblem".
Ddydd Iau, mae pwyllgor craffu cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adroddiad sy'n gwerthuso blwyddyn gyntaf y strategaeth.
Mae'r ddogfen yn nodi bod nifer o fesurau wedi eu cymryd, gan gynnwys:
Gosod posteri i annog y cyhoedd i beidio 芒 bwydo gwylanod;
Rhoi biniau gwrth-wylanod newydd yn y Rhyl, sydd hefyd yn dal mwy o sbwriel;
Cynnig sachau sbwriel gwrth-wylanod arbennig i 15 o breswylwyr;
Ceisio dod 芒'r arfer o ddefnyddio sachau sbwriel untro i ben.
Gofyn am gymorth
Gan ddweud bod yr adborth i nifer o'r mesurau wedi bod yn gadarnhaol, mae'r adroddiad yn rhybuddio na fydd yr un adnoddau ar gael i godi ymwybyddiaeth yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Mae hefyd yn nodi bod y cyngor wedi cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn "gofyn iddynt ddarparu cefnogaeth a chymorth i ddelio gyda'r her genedlaethol a rhanbarthol hon" - ond chafodd y sir ddim ateb gan yr un o'r tri sefydliad.
"Mae'n anodd mesur llwyddiant, ond 'dan ni'n gweld ein bod ni'n gweld y gorau i weithio i leihau'r broblem," meddai Mr Jones.
"'Dan ni'n delio efo llai o gwynion am y peth ar y funud hefyd, felly dwi'n meddwl ein bod wedi gwneud be' fedran ni i daclo'r broblem."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2015