Y Bermo'n beio lladradau ar 'ddiffyg banc yn y dref'
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau yn ardal Y Bermo yng Ngwynedd yn dweud y gallai'r ffaith nad oes banc yn y dref bellach fod yn gyfrifol am sawl lladrad diweddar.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, a hithau'n prysuro wrth i ymwelwyr yr haf gyrraedd, mae chwe busnes yn dweud eu bod wedi cael eu targedu gan ladron.
Ond gan nad oes banc yn y dref, does gan fusnesau nunlle i fynd ag arian parod yn rheolaidd ac felly mae'n tueddu i gael ei gadw yn y siopau.
Mae maer y dref nawr yn bwriadu trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod y broblem, ac ystyried a oes modd i fwy o fusnesau dderbyn taliadau drwy gerdyn banc.
Mae Robert Evans yn ffermio ger Y Bermo a dydy nifer y lladradau ddim yn ei synnu.
"Mae'r busnesau lleol, restaurants a chaffis yn delio lot mewn arian parod ac oherwydd nad oes ganddon ni ddim banciau i gymryd y cash, 'dan ni o Bermo yn gorfod mynd lawr i Aberystwyth neu i fyny i Bwllheli os ydan ni hefo'r NatWest," meddai.
"Dydi'r busnesau ddim yn mynd bob dydd, felly mae 'na swm go helaeth o cash yn hel mewn wythnos ac felly dydi o ddim yn synnu fi bod yna ladradau.
"Mae'r Bermo yn dod yn fwy poblogaidd ac rydan ni'n dibynnu lot ar dwristiaeth, felly rydan ni'n gweld mwy o wario yma sydd yn beth da, ond pan 'dan ni'n cael lladrata fel hyn dydi o ddim yn beth da."
'Syniadau newydd'
Yn dilyn cyfarfod o gyngor y dref, mae bwriad nawr i alw cyfarfod cyhoeddus i weld a oes modd helpu busnesau i osgoi defnyddio arian parod a derbyn taliadau yn electronig.
Dywedodd y cynghorydd Owain Pritchard eu bod yn gobeithio cynnal cyfarfod cyhoeddus yn fuan hefo swyddogion yr heddlu.
"Rydan ni'n gobeithio, allan o'r cyfarfod hwnnw, fydd 'na fwy o syniadau i weld beth mae busnesau a phobl leol yn gallu ei wneud i wneud yn si诺r bod pethau yn cael eu cadw'n saff," meddai.
"'Dan ni'n ymwybodol bod rhai cwmn茂au wedi dechrau defnyddio peiriannau electronig ac mae 'na ambell i gwmni tacsi sydd hefyd wedi prynu peiriant."
Ond fydd hynny ddim yn ateb i bob busnes, yn 么l Victor Barma sy'n cadw siop losin yn y dref.
"'Dan ni'n cael plant bach i mewn, saith, wyth, deg oed, a'r rheiny ydy ein cwsmeriaid mwya' ni," meddai.
"Maen nhw'n dod i mewn i gael gwerth 拢1 o roc neu 60c, dydi o ddim yn talu i fi gael [peiriant] cerdyn.
"'Sgen i ddim byd yn fy siop i dros 拢5, felly dydy cerdyn ddim yn opsiwn i fi ar yr adeg yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2019