Arian ar gyfer hybu'r economi yng ngogledd M么n
- Cyhoeddwyd
Mae'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (ADN) wedi addo 拢495,000 tuag at adfywio'r economi ar Ynys M么n.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan brif weithredwr yr ADN, David Peattie mewn cynhadledd o'r diwydiant niwclear yn Llangefni ddydd Mawrth.
Bydd yr arian yn mynd tuag at Gynllun Adfywio Economaidd Gogledd M么n, a sefydlwyd yn dilyn y cyhoeddiad na fydd cynllun Wylfa Newydd yn mynd yn ei flaen am y tro, ac yn sgil cau ffatri Rehau yn Amlwch gyda cholled o dros 100 o swyddi.
Ychwanegodd Mr Peattie fod y gwaith o symud y tanwydd o atomfa Wylfa bron wedi'i gwblhau, cyn y byddan nhw'n bwrw 'mlaen 芒 gweddill y broses ddatgomisiynu.
Bydd y datgomisiynu'n parhau am flynyddoedd i ddod, meddai, a bydd angen o hyd am sgiliau, nwyddau a gwasanaethau lleol.
Dywedodd arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi mai cymunedau a busnesau gogledd yr ynys oedd wedi ffurfio'r cynllun adfywio fel rhan o ymgynghoriad yn dilyn yr ergydion economaidd diweddar.
"Fel awdurdod rydym wedi gweithio gyda chymunedau a chyrff eraill i ymateb i'r heriau sy'n wynebu gogledd M么n, ac i ganolbwyntio ein hymdrechion ar y rhai a effeithiwyd," meddai.
"Mi fydd yr arian a roddwyd gan yr ADN yn ein galluogi i fwrw 'mlaen efo rhai o'r blaenoriaethau a nodwyd gan y cymunedau lleol i geisio adfywio gogledd M么n."
Mae'r blaenoriaethau hynny'n cynnwys hybu busnes, creu swyddi, hybu twristiaeth a gwella trafnidiaeth yn yr ardal.
Parhau 芒'r achos am atomfa
Dywedodd llefarydd ar ran Horizon - y cwmni tu 么l i Wylfa Newydd - ei bod yn dal i wneud ei "gorau glas i ddatblygu'r achos" dros atomfa newydd ar y safle.
"Rydyn ni'n credu bod niwclear newydd yn bwysicach nawr nag erioed," meddai, gan gyfeirio at yr angen am ffynonellau ynni carbon isel er mwyn cyrraedd targedau'r llywodraeth.
"Yn yr un modd, byddai Wylfa Newydd yn dod 芒 manteision economaidd-gymdeithasol sylweddol i'r ardal.
"O ganlyniad, rydyn ni'n canolbwyntio ar sefydlu'r amodau i ganiat谩u i'r prosiect ailgychwyn yn y dyfodol."
Bu'r gynhadledd ddau ddiwrnod hefyd yn trafod y sgiliau fydd eu hangen i sicrhau fod y gwaith datgomisiynu a glanhau'r safle, yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen, sy'n debygol o gymryd dros 100 mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019