Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
ACau: 'Dim digon o arian yn cael ei roi i ysgolion Cymru'
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Does yna ddim digon o arian yn mynd i ysgolion Cymru er mwyn darparu lefel yr addysg mae disgyblion yn ei haeddu, yn 么l Aelodau Cynulliad.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn galw am adolygiad brys i'r drefn gyllido.
Mae yna alw hefyd am fwy o gysondeb yn yr hyn mae ysgolion yn derbyn ar draws gwahanol siroedd.
Dywedodd yr adroddiad bod ysgolion yn wynebu cyfnod o bryderon ariannol na welwyd ei debyg o'r blaen a byddai'n troi'n argyfwng os yw'n parhau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn blaenoriaethu gwariant ar addysg.
Fe edrychodd y pwyllgor ar faint o arian sy'n mynd mewn i addysg a sut mae'n cael ei rhannu, fel rhan o'r ymchwiliad i gyllido ysgolion.
Dywedodd y dylai adolygiad gael ei gynnal i amcangyfrif y bwlch rhwng yr arian sy'n cael ei wario ar ysgolion ar hyn o bryd a'r hyn sydd ei angen er mwyn darparu'r gofynion.
Mae angen hefyd canfod cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu plentyn, yn 么l y pwyllgor.
"Darlun llwm iawn a geir yn y dystiolaeth a gyflwynwyd inni o ran cwantwm cyffredinol y cyllid sydd ar gael ar gyfer addysg," meddai'r pwyllgor.
"Does dim digon o arian ar gael ar hyn o bryd i sicrhau bod ysgolion yn cyflawni popeth sy'n ofynnol, a'u bod yn darparu addysg i'n disgyblion ar y lefel y maent yn ei haeddu."
Trefn 'hynod gymhleth'
Yn 2018-19 roedd 拢2.6bn ar gael i wario ar ysgolion - 拢5,675 y disgybl.
Ond roedd gwariant yn amrywio o 拢5,107 y disgybl ym Mro Morgannwg i 拢6,456 ym Mhowys.
Mae'r drefn gyllido yn "hynod gymhleth", yn 么l y pwyllgor.
Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo arian i gynghorau ar gyfer ysgolion ond y cynghorau sy'n penderfynu faint yn union sy'n cael ei wario ar addysg, a phob un yn dosbarthu arian i ysgolion unigol ar sail fformiwla wahanol.
Gwrthododd y pwyllgor ddadl rhai undebau dros ailwampio fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer rhannu arian rhwng y cynghorau gan ddweud y byddai'n achosi ansefydlogrwydd ariannol.
Ond dywedodd y byddai modd o bosib i bennu isafswm ar gyfer ysgolion gan ychwanegu cyllid am ffactorau eraill fel tlodi a chyflwr adeiladau.
Yn 么l cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle mae'r dystiolaeth yn glir - "does dim digon o arian yn mynd i mewn i'r system addysg yng Nghymru a does dim digon ohono'n cyrraedd yr ysgolion".
Dywedodd bod rhaid defnyddio'r cyllid yn fwy effeithiol.
"Ynghyd 芒'n pryderon am lefel y cyllid a chymhlethdod y system, mae disgwyl i ysgolion hefyd gyflwyno nifer gynyddol o newidiadau, fel y cwricwlwm newydd, y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a'r dull gweithredu ysgol gyfan ar iechyd emosiynol a meddyliol," meddai.
"Gyda'r pwysau cynyddol, rydyn ni'n pryderu y gallai ysgolion wynebu mwy a mwy o heriau."
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru bod llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at "doriadau sylweddol i gyllideb gyffredinol Cymru" ond ei bod wedi buddsoddi 拢24m i hybu sgiliau athrawon er mwyn codi safonau yn yr ystafell ddosbarth.
Byddai ymateb llawn i'r adroddiad yn dilyn maes o law, dywedodd y llefarydd.