´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Y cyfarwyddwr Mared Swain

  • Cyhoeddwyd
Mared SwainFfynhonnell y llun, Mared Swain

Y cyfarwyddwr Mared Swain sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddi gael ei henwebu gan Hannah Daniel yr wythnos diwethaf.

Hi yw cyfarwyddwr artistig y cwmni theatr Neontopia. Mae hi hefyd wedi gweithio ar y sgrin fach, ar nifer o gyfresi o'r rhaglen Gwaith Cartref ar S4C, ac mae hi'n gweithio'n llawrydd ar nifer o brosiectau theatr, teledu a ffilm.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fi ddim yn siŵr os mai dyma'r peth cyntaf fi'n cofio, ond o'dd e'n eitha traumatic, felly mae'n sefyll allan!

Nes i anghofio gwisgo knickers i'r ysgol feithrin un diwrnod (gan bod fi'n benderfynol i wisgo fy hun yn ddwy oed, a Mam heb checio'n iawn cyn gadel y tŷ) ond erbyn i fi sylwi bod fi ddim yn gwisgo nics, o'n i ar y bws i'r ysgol feithrin - odd e'n rhy hwyr i neud unrhywbeth, felly nes i guddio fy hun yn y ty bach drwy'r bore yn ysgol feithrin, yn crïo.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Patrick Swayze a Jabas Jones.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

'Nath chwaer fi slapio fi o flaen bachgen o'n i'n ffansio pan o'n i tua wyth. O'n i'n bod yn hollol annoying - ac yn trio cal sylw'r bachgen yma (oedd hi hefyd yn ffansio!) ac yn amlwg o'dd hi di cal llond bol o fy nonsens - so ie, nath hi slapio fi, a nath hwnna gau fy ngheg!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn gwylio Cori Gauff yn curo Venus Williams yn rownd gynta' Wimbledon eleni. O'dd e just yn too much! Dim ond 15 yw hi!

Ffynhonnell y llun, Clive Brunskill
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cori Gauff Wimbledon cyntaf llwyddiannus iawn, gan guro Venus Williams, a oedd unwaith yn rhif 1 yn y byd, a chyrraedd pedwerydd rownd y twrnamaint

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fi'n eitha messy, ma' well gen i gal amser da na thacluso lan… fi'n siŵr bod hwnna'n anodd i fy ngŵr fyw gyda!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Monknash - lle briodes i fy ngŵr.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Hen night fi yn Llunden. Ethon ni i weld Priscilla Queen of the Desert, wedyn i roller disco. Gang o ferched (ac ambell fachgen) gorau erioed yn cal LOADS o hwyl gwirion.

Ffynhonnell y llun, Sam Tabone
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sioe gerdd, Priscilla Queen of the Desert, yn dilyn taith tair brenhines ddrag yn teithio ar draws anialwch Awstralia, mewn bws o'r enw Priscilla

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol, ffyddlon, drygionus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ma' 'na gymaint o ffilmie fi'n caru. Mae bron yn amhosib dewis un… Yn y top three mae Pan's Labyrinth, Boogie Nights a Dream Girls.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Chris Hadfield yr astronaut - I mean, mae 'di bod i'r gofod. Mae gen i gymaint o gwestiynau, bydden i yna drwy'r nos!

Ffynhonnell y llun, NASA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Hadfield wedi bod i'r gofod... dychmygwch y straeon!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Sdim un filling gen i yn fy nannedd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio yn y môr, a gwario bob munud gyda fy merched, fy ngŵr a fy nheulu a ffrindiau agos, siŵr o fod yn gwisgo fancy dress a lot o sequins, yn dawnsio a canu a yfed a bwyta bwyd lush.

Beth yw dy hoff gân a pham?

You're the inspiration - Chicago. Mae'n atgoffa fi o ddiwrnod priodas ni - dyna o'dd ein dawns gynta' ni.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail, Fish pie, Chocolate mousse.

O archif Ateb y Galw:

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump - er mwyn gallu ymddiswyddo.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Elliw Gwawr

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw