大象传媒

Canfod gweddillion rhinoseros a mamoth yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Cloddio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r archeolegwyr wedi bod yn cloddio'r safle ers mis Mehefin

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i weddillion rhinoseros a mamoth wrth gloddio mewn ogof yn Sir Ddinbych.

Mae ogof Ffynnon Beuno yn Nhremeirchion yn un o'r llefydd prin ym Mhrydain lle mae olion o bresenoldeb homo sapiens a'r dyn Neanderthal ochr yn ochr 芒'i gilydd.

Ynghyd 芒 dannedd ac esgyrn anifeiliaid o'r Oes I芒, daeth y t卯m o hyd i ddarn o fflint gafodd ei drin gan fodau dynol cynnar.

Roedd yr archeolegwyr, dan arweiniad Dr Rob Dinnis, yn edrych mewn rhan o'r ogof am y tro cyntaf, yn ogystal ag ailymweld 芒 thomen o bridd gafodd ei harchwilio yn gyntaf yn Oes Fictoria.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Rob Dinnis y gallai'r canfyddiad "fod 芒 r么l allweddol wrth geisio dysgu mwy am y cyfnod"

Mae'r olion sydd yn yr ogof yn dod o'r Oes I芒 ddiwethaf, rhwng 60,000 a 30,000 o flynyddoedd yn 么l.

Nod cloddio yno oedd dysgu mwy am hanes cynnar dyn a diwedd oes y dyn Neanderthal.

'Safle eithriadol o bwysig'

Roedd y dannedd a'r esgyrn gafodd eu canfod yno'n perthyn i amrywiaeth o anifeiliaid, gan gynnwys ceffyl gwyllt, udfil (hyena), rhinoseros, llew a mamoth.

Y gred yw y gallai'r udfilod fod wedi cario'r anifeiliaid eraill i'r ogof.

Dywedodd Dr Dinnis yn dilyn y cloddio ei fod yn weddol sicr fod yr holl ddeunydd ar y safle yn perthyn i'r un cyfnod.

"Mae'n bwysig i gychwyn ei fod yn un o dri safle [o'i fath], ond mae'r ffaith bod 'na - tu fewn i'r ogof - olion o'r cyfnod cywir yn gwneud y safle'n eithriadol o bwysig," meddai.

"O bosib, yn y dyfodol, fe allai fod 芒 r么l allweddol wrth geisio dysgu mwy am y cyfnod."