大象传媒

Cwmni theatr i greu Nyth i bobl ifanc mewn hen eglwys

  • Cyhoeddwyd
Pobl ifanc Fr芒n WenFfynhonnell y llun, Cwmni Fr芒n Wen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl ifanc o bob rhan o'r gogledd orllewin wedi cael cyfle i roi mewnbwn i'r cynlluniau datblgyu

Mae cwmni sy'n arbenigo mewn theatr i bobl ifanc wedi cyhoeddi cynlluniau i greu "hwb creadigol pwrpasol" gwerth 拢3.2m mewn hen eglwys ym Mangor.

Yn 么l rheolwyr cwmni Fr芒n Wen, fe fydd y ganolfan yn hen Eglwys Santes Fair yn rhoi "cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i'r celfyddydau creadigol i'w hysbrydoli i ffynnu a chyrraedd eu potensial".

Nyth fydd enw newydd yr adeilad ar Ffordd y Garth ac mae disgwyl iddi gymryd 12 mis i ddylunio a datblygu'r cynlluniau.

Dim ond wedi hynny y bydd y cwmni, sydd wedi'i leoli ym Mhorthaethwy ar hyn o bryd, mewn sefyllfa i gadarnhau amserlen pellach o ran symud i'r adeilad newydd.

Bydd Nyth yn cynnwys "gofodau ar gyfer ymarferion, gweithdai a pherfformiadau ar raddfa fechan ar gyfer amrywiaeth o brosiectau creadigol".

Ffynhonnell y llun, Cwmni Fr芒n Wen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eglwys Santes Fair yn wag ers tro

Y gobaith medd rheolwyr yw "rhoi bywyd newydd i adeilad sydd mor bwysig i'r dreftadaeth leol a'i atgyfodi yn gartref i'r cwmni ac yn ased cymunedol gan gyfrannu tuag at adfywiad a chynnig diwylliannol yr ardal".

Maen nhw'n dweud y bydd "yn hwb i artistiaid ifanc a newydd yng ngogledd Cymru" ac mae pobl ifanc wedi bod yn rhan o'r broses i ddatblygu'r cynlluniau.

Dywedodd un o'r bobl ifanc, Nia H芒f: "Bydd yn rhoi lle diogel i ni ymgysylltu, creu, chwarae a phrofi popeth y gall theatr a'r celfyddydau creadigol eu cynnig."

'Gofodau a chyfleon yn brin'

Yn 么l cadeirydd bwrdd Fr芒n Wen, Irfon Jones, bydd canolfan Nyth yn fodd i'r cwmni ddatblygu partneriaethau newydd "er mwyn hyrwyddo grym trawsnewidiol y celfyddydau mewn meysydd yn cynnwys iechyd a lles a dysgu creadigol.

Ychwanegodd: "Ar adeg pan fo gofodau a chyfleon i bobl ifanc yn arbennig yn brin, rydym am greu hafan diogel i'w meithrin a'u cefnogi ar amser mor allweddol yn eu bywydau."

Ffynhonnell y llun, Cwmni'r Fran Wen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Fr芒n Wen gryn glod am y ddrama Mwgsi, am ddynes ifanc 芒 chanser

Mae Fr芒n Wen, a gafodd ei sefydlu yn 1984, newydd gyhoeddi penodiad cyfarwyddwr artistig newydd, Gethin Evans.

Dywedodd eu cyfarwyddwr gweithredol, Nia Jones, y bydd canolfan Nyth yn caniat谩u iddyn nhw "barhau i gyflwyno gweithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc creadigol a mentrus" ac yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r cwmni "mewn cyfnod o bwysau economaidd cynyddol".

Mae'r cam datblygu wedi cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, un o raglenni adfywio Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Treftadaeth Bensaern茂ol.

Bydd y cwmni'n chwilio am grantiau pellach at gost y gwaith adeiladu, ac yn ymgynghori 芒'r gymuned wrth symud i'r camau nesaf.

Yn y cyfamser maen nhw'n "annog penseiri i ddatblygu syniadau arloesol a beiddgar i adfer ac ailfodelu'r hen eglwys yn adeilad unigryw a chyfoes sy'n ateb ein gofynion".