大象传媒

Angen 'gwella' gwasanaethau canser Cymru medd AS

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Chris Bryant AS wedi cael diagnosis o ganser y croen

Mae angen i wasanaethau canser yng Nghymru wella'n sylweddol yn 么l AS Llafur y Rhondda.

Mae Chris Bryant yn galw ar Lywodraeth Cymru i dargedu'r prinder o radiolegwyr a phatholegwyr yng Nghymru er mwyn gostwng amseroedd aros.

Mae disgwyl i Mr Bryant gymryd rhan mewn dadl yn San Steffan ddydd Mawrth ar y pwnc, ychydig fisoedd ar 么l iddo dderbyn triniaeth lwyddiannus ar ganser y croen.

Fis diwethaf, daeth Cymru'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno amseroedd aros unigol ar gyfer cleifion canser mewn ymgais i gyflymu'r broses o gael diagnosis a chynyddu'r nifer sy'n goroesi'r salwch.

'Angen gwneud mwy'

Y targed yw derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r adeg mae rhywun yn derbyn diagnosis o ganser posib.

Ond yn 么l Mr Bryant mae angen gwneud mwy.

"Mae niferoedd y rheiny sy'n goroesi canser yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop, er ein bod ni wedi gweld gwelliant sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Os nad oes digon o radiolegwyr a phatholegwyr er mwyn ymdopi 芒'r gofynion cynyddol, yna mae perygl na fydd diagnosis cyflym a thriniaeth gyflym sy'n achub bywydau.

"Fy mhryder i yw ein bod yn cymryd cam yn 么l oherwydd eleni does dim digon o bobl wedi cael eu derbyn i hyfforddi mewn patholeg a radioleg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Angen denu mwy o radiolegwyr, medd Chris Bryant

Fe wnaeth y AS awgrymu y dylai fod "anogaeth ariannol" i ddenu arbenigwyr i rai ardaloedd o Gymru.

Ychwanegodd Mr Bryant: "Rwyf eisiau i ni godi'n g锚m yng Nghymru ac mi fyddai'n siarad yn gwbl agored gyda fy nghydweithwyr yn y Cynulliad.

Rwy'n AS. Fe fyddai rhai yn dweud nad yw ddim o fy musnes i. Ond dwi'n ofni, fel rhywun sydd wedi derbyn diagnosis canser yn barod eleni - dwi ddim am adael fynd," meddai.

Cynllun newydd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG yng Nghymru i sicrhau fod pobl sy'n derbyn diagnosis o ganser yn cael eu trin mor fuan 芒 phosib.

"Rydym eisoes wedi sefydlu cynllun newydd sydd wedi dyblu'r nifer o raglenni hyfforddiant ar gyfer radiolegwyr.

"Mae gwaith pwysig hefyd ar y gweill i wella'r capasiti diagnostig mewn radioleg, patholeg, endoscopi a genomeg."

Mae'r Athro Tom Crosby yn Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Canser ar gyfer Cymru a dywedodd fod y galw am wasanaethau canser yn cyflymu'n sylweddol.

"Mae'r gweithlu yn hanfodol i gyrraedd y gofynion ac mae angen cynllun i gynyddu'r gweithlu meddygol a hyfforddiant gweinyddol yn ogystal 芒 chadw'r staff sydd eisoes yn gweithio yn y maes."

Ychwanegodd Mr Bryant ei fod yn cymryd meddyginiaeth ddwywaith y dydd a'i fod yn teimlo'n iach ar 么l ei driniaeth canser.