大象传媒

Casgliad o ganeuon i siaradwyr Cymraeg sydd 芒 dementia

  • Cyhoeddwyd
Gofal Dementia Cymraeg

Bydd cryno ddisg o ganeuon poblogaidd Cymraeg yn cael ei ddosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru yn fuan er mwyn helpu siaradwyr Cymraeg sydd 芒 dementia.

Mae'r casgliad 'C芒n y G芒n' yn ffrwyth nifer o bartneriaid - Dydd Miwsig Cymru, Sain, C么r Cymru, Merched y Wawr, Canolfan Heneiddio a Dementia Bangor, Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.

Bydd y cd yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yng Nghartref Annwyl Fan, Betws ger Rhydaman yng nghwmni Rhys Meirion ddydd Gwener.

Mae Cartref Annwyl Fan yn darparu gofal preswyl ac arbenigol i hyd at 70 o bobl sy'n byw gyda dementia.

Merched y Wawr fydd yn dosbarthu'r cd i gartrefi gofal ar draws Cymru

Dywedodd Tegwen Morris, cyfarwyddwr y mudiad: "Fe benderfynon ni y byddai'n syniad cael casgliad o'r fath gan ein bod am sicrhau bod y famiaith yn cael ei chlywed gan bobl sydd efallai ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cartrefi gofal.

"Ar y cyd 芒'n partneriaid fe holon ni dros fil o bobl yn ystod cystadlaethau C么r Cymru i weld beth oedd eu hoff g芒n - a dyma ni felly wedi cael rhestr o hoff ganeuon Cymru.

"Mae'r mwyafrif yn ganeuon h欧n - caneuon fel 'Mae'n wlad i mi', 'Lawr ar lan y m么r', 'Un dydd ar y tro' ac y mae un g芒n ddiweddarach - 'Anfonaf Angel'."

'Gallu anhygoel cerddoriaeth'

Mae arbenigwyr ym maes iechyd yn dweud y gall caneuon clasurol o'r gorffennol helpu cleifion i ddwyn i gof atgofion melys.

Ychwanegodd Tegwen: "Fe allaf fod yn dyst i hynny, wedi i ni lansio'r prosiect yng nghwmni'r gantores Linda Griffiths yng nghartref Hafan y Waun, Aberystwyth.

"Dwi'n meddwl bod hi'n beth da cael person yn mynd 芒'r cd i'r cartref gofal yn hytrach na phostio."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y CD yn cael ei ddosbarthu i gartrefi gofal yn fuan

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: "Fel cyn-gadeirydd Live Music Now yng Nghymru, elusen sy'n hyrwyddo cerddoriaeth byw mewn cartrefi gofal, rwyf wedi gweld dros nifer o flynyddoedd yr effaith anhygoel y gallai cerddoriaeth o'r gorffennol ei gael ar bobl sy'n byw gyda dementia.

"Gwerthfawrogi cerddoriaeth yw un o'r galluoedd sy'n aros hiraf gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac i lawer ohonon ni yng Nghymru, mae'r caneuon sy'n golygu cymaint i ni yn cael eu canu yn Gymraeg."

Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones, Seicolegydd Siartredig a Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi bod yn arwain ar y prosiect: "Mae cerddoriaeth o'n hieuenctid yn dal yn gyfarwydd i ni'n ddiweddarach mewn bywyd.

"Bydd y cydweithio yma'n galluogi preswylwyr sy'n siarad Cymraeg mewn cartrefi gofal i glywed caneuon maen nhw'n gallu cysylltu 芒 nhw.

"Roedd hyn wir yn apelio i'r cyhoedd, a chafwyd awgrymiadau am bron i 600 o ganeuon sydd wedi ein galluogi i ryddhau'r detholiad amrywiol yma o ganeuon Cymraeg o blith yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd.

"Mae modd argraffu geiriau'r caneuon o'n gwefan ac rydyn ni'n bwriadu datblygu'r gwaith yma drwy gyflwyno rhestrau chwarae personol i bobl mewn partneriaeth ag elusen Playlist for Life."