大象传媒

Ymchwiliad sgandal gwaed: 'Profiadau erchyll'

  • Cyhoeddwyd
Karisa JonesFfynhonnell y llun, Yr ymchwiliad cyhoeddus
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Karisa Jones o Bontardawe oedd y cyntaf i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed heintiedig wedi clywed gan rai o'r Cymry gafodd eu heffeithio.

Dros y dyddiau nesaf bydd unigolion gafodd eu heintio a theuluoedd y rhai fu farw ar 么l derbyn gwaed a chynnyrch gwaed nad oedd yn ddiogel yn y 1970au a'r 80au yn rhoi tystiolaeth.

Yr amcangyfrif yw i 300 o Gymry gael eu heintio 芒 chyflyrau fel Hepatitis C neu HIV.

Fe dderbyniodd g诺r Karisa Jones, Geraint, waed heintiedig drwy drallwysiad yn 1990 wedi iddo golli ei goes mewn damwain yn y gweithle.

Bu farw 12 mlynedd ar 么l cael ei heintio 芒 Hepatitis C a datblygu sirosis yr iau. Cafodd yr haint ei drosglwyddo i Mrs Jones yn ogystal ond mae hi bellach yn glir o'r afiechyd.

Dywedodd Mrs Jones: "Cawsom ein llorio... doedden ni methu credu'r peth, roedd e'n hunllef llwyr.

"Roedd yn ddyn a oedd yn marw bob diwrnod... roedd ei farwolaeth yn ofnadwy. Doeddwn i erioed wedi gweld un rhywbeth tebyg yn fy myw - roedd rhaid iddo ddioddef gymaint."

'Sgerbwd o ddyn'

Yn 么l Mrs Jones o Bontardawe, roedd ei g诺r yn beio ei hun am yr hyn ddigwyddodd iddi hi, ond bu farw cyn cael gwybod ei bod hi wedi gwella.

"Roedd yn sgerbwd o'r dyn yr oedd o wedi bod... roedd o'n felyn a doedd o methu bwyta yn iawn," meddai.

Bu farw Mr Jones yn 50 oed, chwe mis ar 么l cael diagnosis. 12 mlynedd ar 么l y trallwysiad gwaed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Karisa Jones yn dweud ei bod yn dal i fyw mewn ofn o weld yr haint yn dychwelyd

Ychwanegodd Mrs Jones ei bod hi'n credu y dylai gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd fod wedi ei ryddhau yn gynt a bod diffyg manylion am sut i ymateb i'r haint ar 么l cael y diagnosis.

Fe ddechreuodd hi ar raglen chwe mis o driniaeth ar gyfer Hepatitis C yn fuan ar 么l marwolaeth Geraint, rhywbeth wnaeth hi ddisgrifio fel profiad "erchyll".

"Mae o wedi effeithio fy mywyd yn gorfforol ac yn feddyliol... dwi dal i fyw mewn ofn o weld yr haint yn dychwelyd... dwi'n berson hollol wahanol erbyn hyn.

"Oherwydd bod y driniaeth mor anodd ac roedd gen i gyn lleied o amser gyda Geraint, nes i ddal 'mlaen am mor hir 芒 phosib."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i Gerald Stone siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau mewn 34 mlynedd

Cafodd Gerald Stone, 75 oed, sy'n byw a chyflwr Haemoffilia ers yn blentyn, ei heintio 芒 chyflwr Hepatitis C ar 么l derbyn cynnyrch gwaed nad oedd yn ddiogel.

Mae Mr Stone yn credu iddo gael ei heintio yn 1985 ar 么l derbyn cynnyrch gwaed o America o'r enw profil9.

Clywodd y gwrandawiad hefyd bod profion oedd yn dangos fod Mr Stone wedi ei heintio 芒 Hepatitis C wedi cael eu cadw'n gyfrinachol rhwng 1990 a 1992. Ni dderbyniodd ddiagnosis tan 1993.

Cafodd wybod ei fod yn glir o'r afiechyd yn 2016.

'Gorfod byw bywyd cudd'

Ychwanegodd Mr Stone ei fod wedi ceisio osgoi trosglwyddo'r haint i'w wraig a'i blant ers 1983, gan ei fod yn amau fod ganddo HIV neu AIDS.

Roedd wedi gweld adroddiad ym mis Mai 1983 bod haemoffiliac o Gaerdydd wedi cael ei heintio 芒'r afiechyd ar 么l derbyn gwaed.

"Ar 么l mynd i'r ysbyty yn syth i weld arbenigwr, roedd y doctor yn poeni fwy am sut y des i wybod... doedd o ddim yn fodlon cyfaddef," meddai.

Er iddo ddarganfod nad oedd yn byw gyda HIV, dywedodd ei fod wedi "gorfod byw bywyd cudd" ar 么l darganfod fod ganddo Hepatitis C oherwydd y "stigma sydd ynghlwm 芒'r cyflwr".

"Efallai byddai plant eraill wedi stopio chwarae gyda'r merched o ganlyniad. Nes i gadw'r peth yn dawel fel nad oedd rhaid i mi wynebu cael fy ngwrthod gan aelodau o'r gymdeithas."

Ffynhonnell y llun, Yr ymchwiliad cyhoeddus
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Sue Sparkes bod ei g诺r yn "teimlo fel llofrudd" ar 么l cael diagnosis HIV

Mae dynes a gollodd ei g诺r ar 么l iddo gael ei heintio 芒 HIV ar 么l derbyn cynnyrch gwaed wedi dweud ei fod yn disgrifio ei hun fel "llofrudd" oherwydd ei gyflwr.

Bu farw Les Sparkes, oedd yn byw a chyflwr haemoffilia, yn 1990 pan oedd yn 31 oed ar 么l datblygu afiechyd Aids.

Yn 么l Sue Sparkes, roedd y ddau wedi eu "syfrdanu" ar 么l derbyn y diagnosis ym mis Medi 1985.

Clywodd y gwrandawiad bod y ddau yn "byw mewn ofn" oherwydd y ffordd byddai rhai yn ymateb.

'Wedi ein llorio'

Roedd Mr Sparkes yn gwrthod mynd i'r ysbyty ar 么l cael y diagnosis, ac fe ofynnodd i'w wraig beidio 芒 dweud wrth unrhyw un.

"Roedd o yn gweld ei hun fel llofrudd gan fod rhywbeth tu mewn iddo oedd yn gallu lladd pobl," meddai.

"Daethom ni allan o'r ystafell y diwrnod hwnnw ac roedden ni wedi ein llorio. Aethon ni mewn yn disgwyl sgwrs gymdeithasol, ond cawsom ein taro gan newyddion ofnadwy."

Ychydig cyn marwolaeth ei g诺r fe wnaeth Mrs Sparkes wneud prawf HIV a ddangosodd nad oedd ganddi'r cyflwr.

Dangosodd profion yn dilyn marwolaeth Mr Sparkes ei fod o hefyd yn byw 芒 chyflwr Hepatitis C.

'Pobl dal i ddioddef'

Mae'r ymchwiliad, sydd wedi'i gadeirio gan Syr Brian Langstaff, yn clywed gan 15 o dystion ac yn ystyried dwsinau yn rhagor o gyflwyniadau ysgrifenedig.

Dywedodd mai nod yr ymchwiliad yw darganfod beth yn union aeth o'i le.

"Does gennyn ni ddim llawer o amser, gan fod pobl yn dal i ddioddef ac yn dal i farw ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r atebion gorau posib," meddai.

Mae'r ymchwiliad yn parhau.