Galw am ddileu cynllun dad-ddofi O'r Mynydd I'r M么r

Disgrifiad o'r llun, Daeth ymhell dros 100 o bobl i fynegi eu pryderon mewn cyfarfod ar faes y Sioe Fawr
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw am roi'r gorau i gynllun dad-ddofi enfawr ar gyfer 10,000 hectar o dir yn y canolbarth.

Bwriad cynllun O'r Mynydd I'r M么r yw creu un coridor hir ar draws y canolbarth i gefnogi rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt, o fynyddoedd Pumlumon i Fae Ceredigion, heb ymyrraeth ddynol.

Elusen o'r enw Rewilding Britain sydd yn gyfrifol am y cynlluniau.

Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod arbennig ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth i fynegi eu pryderon.

Ar 么l cyfarfod fe ddywedodd Nick Fenwick wrth 大象传媒 Radio Cymru: "Mae angen iddyn nhw adael a gwneud i ffwrdd 芒'r cynllun, oherwydd yn y b么n mae'n mynd yn erbyn cefn gwlad a'r cymunedau ac amaeth.

"Natur y cynllun yw ail-wylltio ar lefel lle nad yw hi'n bosib i bobl fyw yn eu cymunedau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd belaod coed eu hailgyflwyno i'r ardal yn 2015

Fe ategwyd yr alwad honno gan Dafydd Morris Jones, ffermwr defaid o Ysbyty Cynfyn ger Ponterwyd.

"Wy'n credu mai'r unig ffordd ymlaen - er mwyn achub y berthynas rhwng cadwraethwyr a ffermwyr - yw i'r cynllun ddod i ben a gadael i'r mudiadau cynhenid a'r ffermwyr ddod n么l at ei gilydd i gynllunio ar gyfer dyfodol disglair."

Yn 么l y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy'n cynrychioli ardal Glantwymyn ar Gyngor Powys: "Beth sy'n bod ydy diffyg gwybodaeth sylfaenol a diffyg parch at y gymuned leol.

"Maen nhw'n gwrthod cynnal cyfarfod cyhoeddus. Mae pobl yn amheus iawn o beth yw'r gwir agenda."

'Dyddiau cynnar'

Dywedodd cyfarwyddwr prosiect O'r Mynydd i'r M么r, Melanie Newton ei bod yn parhau'n "ddyddiau cynnar iawn" i'r cynllun.

"Rydyn ni eisoes wedi siarad 芒 nifer o bobl, gan gynnwys cynrychiolwyr o UAC, dros y misoedd diwethaf.

"Ni allaf dan-bwysleisio bod hyn am greu cyfleoedd i bobl aros ar y tir a gadael i gymunedau a diwylliant Cymreig i ffynnu, gyda natur yn ffynnu hefyd.

Ychwanegodd bod cymryd rhan yn y prosiect yn "gwbl wirfoddol".