大象传媒

Colli swydd ar sail rhywioldeb

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd Annette Edwards ei diswyddo o'r Llu Awyr oherwydd ei rhywioldeb.

"You're not good enough."

Dyna sut oedd Annette Edwards yn teimlo pan gollodd hi ei swydd gyda'r Llu Awyr ar 么l i uwch-swyddogion ddod i wybod ei bod hi'n hoyw.

"O'n i'n gwybod mod i'n g'neud fy ngwaith yn iawn... ond jest am un peth amdana fi...

"Ar y pryd, o'n i'n teimlo reit desperate ac ar ben fy hun... ond mae o wedi ng'neud i'n fwy cry'."

Mae dal yn rhywbeth sydd yn anodd i Annette siarad amdano.

Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, ar 么l achos cyfreithiol, derbyniodd Annette, a 62 o bobl eraill, iawndal am gael eu diswyddo o'r Llu Awyr ar sail eu rhywioldeb.

Ond yr hyn oedd yn bwysicach i Annette oedd eu bod, o'r diwedd, wedi cael ymddiheuriad swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Hefyd o ddiddordeb: