大象传媒

Cynlluniau 拢20m i warchod traethau Llandudno rhag llifogydd

  • Cyhoeddwyd
North Shore - Llandudno
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr eisiau llai o gerrig a mwy o dywod ar draeth ogleddol Llandudno

Fe allai hyd at 拢20m gael ei wario ar wella amddiffynfeydd llifogydd ar ddau o draethau un o drefi glan m么r amlycaf y gogledd.

Mae cynigion am welliannau i leihau'r risg o lifogydd yn Llandudno yn y dyfodol hefyd yn cynnwys dod 芒 thywod yn 么l, yn lle cerrig m芒n, i Draeth y Gogledd.

Mae yna bryderon y gallai newid yn yr hinsawdd arwain at godiad o 700mm (2.5 troedfedd) yn lefel y m么r o amgylch Pen y Gogarth dros gyfnod o 100 mlynedd.

Yn 么l peirianwyr Cyngor Conwy, fe allai rhan helaeth o'r dref fod mewn perygl o ddioddef llifogydd difrifol, oni bai bod yna weithredu.

Dywedodd rheolwr risg llifogydd y cyngor, Owen Conry: "Mae Llandudno fel powlen a'r amddiffynfeydd m么r ydy'r ymyl - petai'r rheiny yn methu, mae'r dref dan dd诺r. Mae'n rhaid i ni liniaru'r risg yna."

Cafodd y cynlluniau eu harddangos i'r cyhoedd mewn arddangosfa yn y dref ddydd Gwener ac mae yna gyfle arall i'w gweld ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen gwaith atgyweirio ar draeth Penmorfa a chodi'r morglawdd

Mae'r cynigion ar gyfer Traeth y Gogledd a Thraeth Penmorfa yn cael eu cefnogi gan Fforwm Arfordirol Llandudno, sy'n cynnwys trigolion, busnesau, rheolwyr y sector twristiaeth a'r cyngor.

Cafodd y fforwm ei sefydlu yn 2014 wedi gwrthwynebiad chwyrn pan gafodd miloedd o dunelli o greigiau eu gosod ar Draeth y Gogledd i warchod ardal y prom rhag tonnau'r m么r.

Ymhlith y cynigion diweddaraf ar gyfer y traeth mae codi wal y prom tua 400mm (16 modfedd), a gwella'r traeth tywod ar gyfer plant sydd yn ardal un pen prom, ger y pier.

Hefyd mae yna bosibilrwydd o osod muriau isel, o gerrig neu bren, i atal rhagor o erydu - cam a fyddai'n caniat谩u gosod mwy o dywod i wella edrychiad y traeth.

Ond fe allai'r gwelliannau gostio rhwng 拢14m a 拢17m.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyhoedd yn cael cyfle i weld y cynlluniau atal llifogydd a mynegi barn ar y cynigion

Yn achos Traeth Penmorfa, lle mae yna eisoes risg uwch o lifogydd, mae yna s么n am atgyweirio a chodi'r morglawdd.

Mae cynnig arall yn awgrymu codi rhodfa uchel a llwybr seiclo.

Byddai'r holl welliannau yn ardal Penmorfa yn costio tua 拢2.4m.

Yn 么l Alison Shields, cynrychiolydd y gr诺p ymgyrchu Restore Our Beach ar y fforwm, mae yna botensial i'r cynlluniau adfywio traethau'r dref.

"Rydyn ni eisiau gweld traeth lle gall pobol fynd 芒'u teuluoedd, sy'n ddiogel ac yn amddiffyn yr arfordir yn effeithiol hefyd," meddai.

"Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth, er lles y dref."

Mae'r arddangosfa yng Nghanolfan Fictoria yn rhan o broses ymgynghori, ac os fydd yna gefnogaeth i'r cynlluniau fe fydd cais am arian amddiffyn llifogydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn.