大象传媒

Canllawiau ar addysg yn y cartref yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dysgu adref
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y canllawiau yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol weld plentyn, o leiaf, unwaith y flwyddyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau drafft sy'n ymwneud ag addysg yn y cartref "er mwyn helpu awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd".

Cyn i'r canllawiau gael eu pasio bydd cyfnod ymgynghorol er mwyn sicrhau bod y canllawiau yn "rhesymol a chymesur".

Mae'r canllawiau statudol drafft yn nodi:

  • Sut y gall awdurdodau lleol ddod o hyd i blant nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn ysgolion;

  • Sut mae asesu pa mor addas yw'r addysg;

  • Y dylai awdurdod lleol weld plentyn, o leiaf, unwaith y flwyddyn;

  • Pa gymorth mae angen i awdurdod lleol ei ddarparu.

Yn ogystal, mae llawlyfr yn cael ei ddatblygu i gynnig cyngor a chymorth i bobl sy'n darparu addysg yn y cartref i'w plant ar hyn o bryd neu'n ystyried hynny.

Mae'r canllawiau hefyd yn anelu at sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael i addysgwyr cartref yn gyson drwy Gymru.

'Datblygu partneriaeth'

Yn nes ymlaen eleni, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata er mwyn eu helpu i ddod o hyd i blant nad ydynt wedi eu cofrestru mewn ysgol neu ar gofrestr addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), ac yna i bennu a yw'r plant yn cael addysg briodol.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Bydd y canllawiau statudol yn helpu awdurdod lleol i gefnogi teuluoedd sy'n penderfynu addysgu eu plant gartref, ac yn cryfhau'r mecanwaith sydd ar gael i awdurdodau lleol pan na fo'r addysg sy'n cael ei darparu yn briodol.

"Mae budd pennaf y plentyn yn hollbwysig, a ph'un a yw'r plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol neu yn y cartref, rydym yn benderfynol o gefnogi pob plentyn i fod ar eu gorau a chyrraedd eu potensial llawn."

'Cyfle i bob plentyn'

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland, ei bod wedi dweud wrth y llywodraeth yn ystod y 18 mis diwethaf bod rhaid i unrhyw ganllawiau statudol newydd fodloni'r tri phrawf canlynol:

  • Bod modd rhoi cyfrif am bob plentyn yng Nghymru, fel nad oes neb yn llithro o dan radar y gwasanaethau cyffredinol, a chymdeithas yn gyffredinol;

  • Bod pob plentyn yn cael addysg addas a'u hawliau dynol eraill, gan gynnwys iechyd, gofal a diogelwch;

  • Bod pob plentyn yn cael cyfle i gael eu gweld a bod eu barn yn cael gwrandawiad, gan gynnwys eu barn am eu haddysg a'u profiadau.

"Rwy'n croesawu'r bwriad i sicrhau rheoleiddio cryfach yn y maes hwn, a chydnabod yr angen am fwy o gefnogaeth i deuluoedd," meddai Ms Holland.

"Fy ngham nesaf fydd penderfynu a yw ymrwymiad cyhoeddus y llywodraeth yn cael ei adlewyrchu ym manylion a goblygiadau'r canllawiau statudol newydd drafft hyn.

"Byddaf yn edrych yn fanwl ar y dogfennau a gyhoeddwyd heddiw, ac yn cadw'r opsiwn o ddefnyddio fy mhwerau adolygu cyfreithiol os byddaf yn pryderu nad yw'r llywodraeth yn ymarfer ei swyddogaethau i sicrhau bod y tri phrawf yma'n cael eu bodloni."