大象传媒

Pysgod yn marw yn Nhorfaen oherwydd gormod o chwyn

  • Cyhoeddwyd
duckweed
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pysgotwyr yn pryderu y bydd mwy o bysgod yn trigo yn fuan os nad yw'r d诺r yn cael ei waredu o'r chwyn

Mae pysgod yn cael eu gadael i drigo mewn camlesi yn Nhorfaen am eu bod yn cael eu mygu gan chwyn, yn 么l un gr诺p o bysgotwyr.

Yn 么l gr诺p Carpiaid y Cymoedd mae'r cyngor sir yn methu yn eu gwaith o glirio'r camlesi ac afonydd o amgylch Cwmbr芒n, ac maen nhw'n orlawn o chwyn.

O'r herwydd mae'r aelodau wedi dechrau clirio'r chwyn gyda rhacanau.

Yn 么l cyngor Torfaen maen nhw wrthi'n trefnu cyfarfod "cyn gynted 芒 phosib".

Ffynhonnell y llun, Kevin Putnam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae aelodau wedi gweld nifer o bysgod marw ar wyneb y d诺r

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwirfoddolwyr yn defnyddio rhacanau i glirio'r camlesi o'r chwyn

Yn ystod y tywydd poeth diweddar mae'r chwyn sy'n arnofio ar wyneb y d诺r wedi ymledu, ac yn 么l y pysgotwyr mae'n ymdebygu i garped gwyrdd ym Mhontnewydd.

"Mae'r gamlas yn llawn chwyn, mae'n rhwystro golau'r haul rhag treiddio i'r d诺r ac mae'r pysgod yn dioddef," meddai Kevin Putnam.

"Fe wnaeth y cyngor ddweud eu bod nhw'n bwriadu ei glirio yn ystod y gaeaf, ond erbyn hynny mi fydd hi'n rhy hwyr, a bydd y pysgod wedi marw.

"Mae'n eithriadol o rwystredig felly dyna pam rydyn ni, fel gr诺p, wedi penderfynu dod yma ein hunain i'w glirio."

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Torfaen: "Rydyn ni wedi ymroi ein hunain i ddarganfod cydbwysedd rhwng ecoleg ac anghenion pobl leol yn gymdeithasol ac yn economaidd."