Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Recordiau Sain: 'Dim cynllun' i gefnogi'r diwydiant cerdd
- Awdur, Mari Grug
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae yna ddiffyg strategaeth gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant cerdd yng Nghymru, yn 么l cwmni recordiau blaenllaw.
Mae Sain yn dathlu 50 mlynedd o ryddhau cerddoriaeth ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst yr wythnos hon.
Yn 么l Dafydd Roberts, prif weithredwr y cwmni, mae angen i'r llywodraeth sefydlu corff fyddai'n goruchwylio'r maes yn ei gyfanrwydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymdrechion "ar draws y sbectrwm" i gefnogi'r diwydiant yng Nghymru.
'Dim trosolwg'
Ar 么l 15 mlynedd fel prif weithredwr Sain, mae Mr Roberts wedi dweud wrth y Post Cyntaf bod "bwlch" yn tyfu o fewn y diwydiant.
"Dwi'n meddwl bod angen corff i gynrychioli'r diwydiant yn ei gyfanrwydd," meddai wrth raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru.
"Mae mor bwysig rhoi trosolwg. Mae angen corff hyd braich o'r llywodraeth, fel y Cyngor Llyfrau i weisg a Ffilm Cymru ac Opera Cymru ac ati.
"Does gan gerddoriaeth ddim un corff i edrych ar 么l ei fuddiannau.
"Fe ddylai gael nawdd - fel y gweddill - o'r pwrs cyhoeddus. Mi oedd y llywodraeth yn cynnal y Welsh Music Foundation, tan iddyn nhw stopio ariannu hwnnw."
Fe ddaeth Sefydliad Cerdd Cymru i ben yn 2014 ar 么l colli nawdd Llywodraeth Cymru.
Ar y pryd fe ddywedodd y llywodraeth eu bod yn archwilio opsiynau i ddatblygu gwasanaeth cynghori ar gyfer y diwydiannau creadigol.
Ers cael ei ddiddymu, mae Sain yn teimlo bod angen rhywbeth tebyg sy'n cynrychioli recordio, cerddoriaeth fyw, hyfforddiant, teithio, allforion, marchnata a hyrwyddo.
Yn fand gafodd ei ffurfio dwy flynedd yn 么l yn barod ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn 2020, mae Bwca yn dysgu mwy am y diwydiant gyda phob profiad newydd.
Maen nhw'n ategu pryderon Sain, ac fe ddywedodd eu prif leisydd, Steff Rees, bod rheoli'r band yn gallu bod yn gymhleth.
"Dros y gaeaf ni'n meddwl y byddwn ni'n eithaf tawel. Ry' ni tu allan i fybyl cerddorol Caerdydd a Chaernarfon felly ni'n poeni am 'ny," meddai.
"Byddai'n neis cael mwy o gymorth. Ni'n fand annibynnol sy' ddim yn gweithio gydag unrhyw label proffesiynol ar hyn o bryd.
"Mae'r busnes hawlfraint a gwneud gwaith papur yn minefield.
"Byddai'n neis cael rhyw bwynt cymorth a gweithio gyda rhywun sy'n mynd i roi hyder i ni fod ni'n 'neud pethau'n iawn er mwyn i ni wedyn allu canolbwyntio ar greu cerddoriaeth."
'Diogelu talent Cymru'
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ymdrechion yn cael eu gwneud "ar draws y sbectrwm" i gefnogi'r diwydiant yng Nghymru.
"Mae hynny'n cynnwys ariannu rhaglen PYST sy'n dosbarthu caneuon digidol a hyrwyddo labeli ac artistiaid Cymru - y cyntaf o'i fath yng Nghymru."
Yn 么l llefarydd "mae PYST yn gallu teilwra gwasanaethau yn benodol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg".
"Mae'r llywodraeth hefyd yn cydweithio gyda chyrff er mwyn teilwra'r gefnogaeth sydd ei angen ar y diwydiant, a helpu i ddiogelu dyfodol talent Cymru," meddai.