Canslo Maes B oherwydd rhagolygon o dywydd garw
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod gigs Maes B wedi'u canslo nos Wener a nos Sadwrn oherwydd rhagolygon o dywydd garw.
Bydd y maes pebyll ieuenctid hefyd yn cau, gyda rhybuddion melyn am wynt a glaw mewn grym gan y Swyddfa Dywydd dros y deuddydd nesaf.
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi dod i'r penderfyniad yn dilyn trafodaethau gyda "Chyngor Conwy, Heddlu Gogledd Cymru, Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill".
Yn 么l y trefnwyr bydd Maes B a'r maes pebyll ieuenctid yn cael eu gwagio heddiw "er mwyn lles a diogelwch y trigolion".
Mae ardal loches ar gael yn y ganolfan hamdden ger Ysgol Dyffryn Conwy, ac mae'r Eisteddfod yn cynghori pobl i'w defnyddio os nad oes modd gadael y safle yn syth.
"Os oes gan bobl deulu yn aros yn y maes carafanau neu'n agos at yr Eisteddfod, rydym yn argymell eu bod yn symud atyn nhw," meddai'r Eisteddfod.
"Os yw unrhyw berson ifanc yn bwriadu gyrru gartref, mae'n rhaid sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon iddyn nhw wneud hynny.
"Ni ddylai unrhyw un yrru os ydyn nhw dan ddylanwad alcohol, a dylid mynd i un o'r llochesau nes ei fod yn ddiogel i yrru."
Ychwanegon nhw y dylai rhieni neu ffrindiau sy'n casglu rhywun oedd yn aros yn Maes B wneud hynny o Ganolfan Hamdden Llanrwst.
'Penderfyniad anodd ond cywir'
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses wrth Cymru Fyw: "Ni'n asesu'n barhaus, ac yn dilyn y rhagolygon a ddaeth i'r fei y bore 'ma rydyn ni, mewn trafodaeth gydag asiantaethau eraill, wedi gwneud y penderfyniad anodd ond y penderfyniad cywir o ran diogelwch pobl ifanc a'u llesiant bod yn rhaid i ni ganslo Maes B a'r gwersylla.
"Mae gennym ni dimoedd mewn lle nawr i sicrhau bod gennym ni gyngor ar gyfer y bobl ifanc.
"Mae'r t卯m llesiant yna'n ogystal er mwyn ein bod ni'n gallu eu cynorthwyo nhw ar gyfer taith ddiogel adref.
"Mi fydd yna ad-daliad, ond diogelwch pobl sydd bwysicaf nawr.
"Y peth sy'n bwysig heddiw yw ein bod ni'n gallu eu cynorthwyo nhw er mwyn bod nhw'n gallu gwneud eu taith adref."
Un o'r rhai oedd wedi trio mynd i Faes B fore Gwener oedd Gwenno Parry, 20 oed.
"Naethon ni orfod aros rhyw ddwy awr achos roedden nhw'n dweud bod rhywbeth yn bod efo'u systemau, felly naethon ni jest dod i'r maes ac wedyn gweld ar Instagram bod Maes B 'di ganslo," meddai.
Roedd hi'n siomedig nad oedd y trefnwyr wedi cyhoeddi hynny'n gynt.
"Mae 'na lot 'di mynd adra bora 'ma, mae 'na lot 'di dod i'r maes a r诺an isio mynd adra, ond ma' lot di dechrau yfed yn barod felly dwi'm yn si诺r beth fydd yn digwydd o ran trio dreifio adra r诺an," meddai.
"O'n i'n meddwl 'sa nhw 'di gallu deud wrth bobl neithiwr neu'n gynnar bore 'ma fel ein bod ni'n gwybod i beidio trafferthu dod."
Dywedodd yr Eisteddfod y bydd yn cyhoeddi manylion am drefnu ad-daliad "yn ystod yr wythnos nesaf".
Ychwanegodd Ms Moses y bydd rhaglen y Maes yn parhau fel yr arfer ddydd Gwener, ac y bydd asesiadau cyson i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
"Mi fydd 'na asesiad arall y prynhawn 'ma gyda'r diweddaraf o ran y rhagolygon," meddai.
"Os oes 'na unrhyw newid fe fyddwn ni'n darparu'r wybodaeth cyn gynted 芒 phosib."
'Siom ofnadwy'
Dywedodd Ifan Pritchard o'r band Gwilym , oedd yn fod i berfformio ym Maes B nos Wener ei fod yn "hollol gutted."
"Gafon ni wybod bore ma wrth i ni baratoi i neud yn ffordd draw at y maes ac yn amlwg odd yr holl beth yn sioc enfawr.
"Er bod yr ochr hunanol ohonai yn amlwg wedi siomi da ni 100% tu 么l i benderfyniad y trefnwyr."
"Roedd o'n benderfyniad mor anodd ond fysa ni'n licio diolch i'r staff sydd wedi helpu gyda'r holl drefniadau ac ati.
Ychwanegodd: "Hyd yn oed nad ydi'r storm mor ddrwg 芒'r disgwyl, ma'n rhaid meddwl am ddiogelwch gyntaf, ac yn amlwg fysa ni ddim isho gweld neb yn cael eu brifo.
"Yn amlwg ma Maes B yn un o'r gigs mwyaf i fandiau Cymraeg, ac yn lwyfan lle ma lot o fandiau yn gwneud enwau i'w hunain.
"Da ni'n hollol gutted bo ni ddim am allu chwarae ar lwyfan mwyaf y sin, ag yn gutted dros weddill y bandiau sy'n perfformio dydd Sadwrn hefyd.
"Da ni di edrych mlaen gymaint ond gobeithio cawn ni'r cyfle i neud fyny amdano fo yn Nhregaron blwyddyn nesa."
Dywedodd Gwyn Rosser o'r band Los Blancos, oedd i fod yn perfformio ym Maes B nos Sadwrn, eu bod yn deall pam fod yr Eisteddfod wedi gwneud eu penderfyniad.
"Yn amlwg da ni'n hollol gutted bo' ni ddim yn chware ond ry'n ni'n deall pam," meddai.
"Yn amlwg mae diogelwch ac ati'n dod gyntaf ond dwi jest yn teimlo bechod mawr dros fandiau fel Mellt nawr.
"Gobeithio bo' nhw ddim wedi colli'r cyfle i headlinio Maes B nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019