大象传媒

Marwolaethau cyffuriau 'ar eu huchaf erioed'

  • Cyhoeddwyd
TabledFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffigyrau'n dangos bod marwolaethau o ganlyniad i MDMA ac ecstasi ar eu huchaf ar gofnod

Bu farw mwy o bobl o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau y llynedd nac ar unrhyw adeg arall ar gofnod, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS).

Cafodd 208 o farwolaethau oherwydd cyffuriau eu cofrestru yn 2018 o'i gymharu 芒 185 yn 2017.

Dros gyfnod o 10 mlynedd mae cynnydd o 84% wedi bod yn nifer y marwolaethau yma.

Mae'r ystadegau'n dangos fod 327 o bobl wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i gael eu gwenwyno gan gyffuriau, ac mae hynny'n cynnwys o ganlyniad i gymryd gorddos o gyffuriau meddygol.

Mae hynny'n gynnydd o 26% ar ffigyrau 2017.

Yn 么l un o gomisiynwyr heddlu Cymru mae'n "warthus" bod pobl yn marw "heb fod angen" am nad yw llywodraethau wedi cydnabod fod angen.

Cymru'n waeth na Llundain

O'i gymharu 芒 rhanbarthau yn Lloegr, Cymru oedd 芒'r raddfa uchaf ond un o farwolaethau.

Roedd y raddfa yng Nghymru yn 72 am bob miliwn o bobl, sy'n llai na gogledd ddwyrain Lloegr, sydd 芒 graddfa o 96.3 i bob miliwn.

Ond mae ychydig yn fwy na gogledd orllewin Lloegr, sydd 芒 graddfa o 68.3 i bob miliwn o bobl.

Y raddfa yn Llundain ydy 34.9.

Yng Nghymru, mae'r niferoedd ar eu huchaf yn Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid edrych o'r newydd ar bolisi cyffuriau, meddai Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru

"Mae'n warthus bod pobl yn marw heb fod angen am nad yw llywodraethau'n cydnabod bod angen polisi cyffuriau newydd, gwreiddiol," meddai Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones,

Dywedodd Mr Jones, sy'n gyn-arolygydd heddlu: "Mae'r hyn sy'n cael ei 'nabod fel y rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi methu ers 30 mlynedd ac mae'n mynd i barhau i fethu hefyd.

"Mae angen polisi synnwyr cyffredin sy'n trin achosion o gymryd cyffuriau fel achosion meddygol yn hytrach na gweithred droseddol."

Ychwanegodd bod niferoedd y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau ym Mhrydain dros ddwbl y cyfartaledd Ewropeaidd, a 12 gwaith yn fwy na chyfartaledd Portiwgal, sydd wedi cyfreithloni'r hawl i fod 芒 chyffuriau yn eich meddiant ers 2001.

Mae'r ystadegau newydd yn dangos bod marwolaethau ymhlith pobl o dan 29 oed oherwydd ecstasi yng Nghymru a Lloegr ar eu lefel uchaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn 1993.

Heroin a morphine ydy'r ddau gyffur opiad sydd yn ymddangos fwyaf ar dystysgrifau achosion o farwolaeth drwy wenwyno.

Yn 2018 roedd yna 125 marwolaeth yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i sylweddau newydd, a 637 o ganlyniad i goc锚n.