大象传媒

Heddlu'n newid polisi cam-drin domestig wedi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Jason CooperFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ap锚l Jason Cooper yn erbyn hyd ei ddedfryd ei wrthod y llynedd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud newidiadau i'r ffordd mae'r llu yn delio ag achosion o gam-drin domestig yn dilyn marwolaeth dynes yn 2017.

Cafodd Laura Jayne Stuart, 33, ei thrywanu i farwolaeth gan ei chyn-bartner yng nghanol Dinbych ar 12 Awst ddwy flynedd yn 么l.

Fe gafodd Jason Cooper ei garcharu am oes, gyda lleiafswm o 31 o flynyddoedd dan glo, ym mis Mawrth y llynedd.

Daeth ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) i'r casgliad fod 18 o adroddiadau wedi cael eu gwneud i Heddlu'r Gogledd yn ymwneud 芒'r ddau rhwng Awst 2015 ac Awst 2017.

Roedd y rhain yn cynnwys honiadau o ymosod.

Fe wnaeth ymchwiliad SAYH ganfod na chafodd Cooper ei arestio na'i gyfweld mewn cysylltiad 芒'r cam-drin domestig.

Ni chafodd ei ff么n ei gymryd gan yr heddlu chwaith, yn dilyn honiadau fod Cooper wedi stelcian, hambygio ac anfon negeseuon maleisus at Ms Stuart.

'Edrych ar y darlun mwy'

Dywedodd Mel Palmer o SAYH: "Roedd adroddiadau a wnaed i'r heddlu yn cynnwys honiadau bod Mr Cooper wedi defnyddio trais, wedi gwneud bygythiadau, wedi cael dylanwad ariannol ar Laura, wedi ceisio ei symud o'r t欧 yn dilyn dadleuon ac wedi bygwth dosbarthu lluniau personol ohoni."

Roedd hyn, meddai, yn debygol o fod wedi achosi loes i Ms Stuart, gyda hynny'n gwaethygu hyd at ei marwolaeth.

"Mae'r ystod o nodweddion a dynameg cam-drin domestig yn golygu bod angen i swyddogion heddlu fod yn wyliadwrus," meddai.

"Mae angen ystyried digwyddiadau y gellir eu hystyried yn risg isel fel rhan o ddarlun mwy fel bod heddluoedd yn gweld risg yn gyfannol i ddiogelu menywod fel Laura yn well."

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Laura Jayne Stuart, mam i ddau o blant, ym mis Awst 2017

Yn dilyn awgrymiadau gan SAYH mae'r heddlu wedi cytuno i wneud gwelliannau, gan gynnwys ei gwneud yn arfer gorau i swyddogion sy'n gwisgo cyfarpar fideo i'w droi ymlaen wrth fynd i ddigwyddiadau cam-drin domestig.

Mae'r heddlu bellach yn bwriadu cynnig hyfforddiant pellach i swyddogion rheng flaen ar sut i ddelio ag achosion o'r fath.

Er bod yr ymchwiliad wedi dod i ben ym mis Rhagfyr 2018, roedd yn rhaid disgwyl i ddod ag achos camymddwyn i ben cyn cyhoeddi'r canfyddiadau.

Cafwyd achos o gamymddwyn ei brofi yn erbyn un heddwas am iddo fethu 芒 chydymffurfio 芒 pholisi cam-drin domestig Heddlu'r Gogledd ar 么l i Cooper anfon negeseuon bygythiol at Ms Stuart.

'Wedi arwain at welliannau'

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd yr Uwcharolygydd Nick Evans: "Mae gan y gwasanaeth heddlu r么l hanfodol i'w chwarae o ran mynd i'r afael 芒 cham-drin domestig ac felly mae'n flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru.

"Mae cam-drin domestig聽yn achosi niwed ofnadwy, ac yn yr achos hwn, yn drasig oherwydd iddo arwain at golli bywyd.

"Rydym yn derbyn ac yn croesawu'n llwyr ganfyddiadau ymchwiliad SAYH ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy i wella effeithiolrwydd ein hymateb gweithredol.

"Mae hyn wedi arwain at welliannau i'n polisi ar sut i ymdrin 芒 digwyddiadau o gam-drin domestig, hyfforddiant pellach i'n staff rheng flaen a buddsoddiad mewn mwy o arbenigwyr cam-drin聽domestig.

"Rydym wedi ymrwymo i barhau 芒'r ymdrech hon i weithio gyda'n partneriaid i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig a dod 芒 throseddwyr o flaen eu gwell."