大象传媒

'Rhaid mynd at wraidd digartrefedd ymhlith pobl ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Daniel ymhlith y bobl ifanc sydd wedi cael cymorth gan elusen Llamau

Dim ond "rhan o'r ateb" ydy cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒 digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn 么l elusen fydd yn derbyn arian.

Bydd 拢3.4m yn cael ei wario ar 26 o brosiectau sy'n cynnig lloches i bobl ifanc digartref yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Ond yn 么l yr elusen Llamau, mae angen gwario arian hefyd ar fynd at wraidd digartrefedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi cynlluniau i ddatrys y broblem.

Yn 么l y data mwyaf diweddar fe wnaeth dros 7,500 o bobl ifanc rhwng 16-25 oed ddefnyddio gwasanaethau digartrefedd yn 20017-18 - cynnydd o 23% o gymharu 芒 2015-16.

Tra'n croesawu'r arian ychwanegol dywedodd Sam Austin, dirprwy brif weithredwr Llamau: "Rhan o'r ateb yw'r cyllid yma i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Ymyrraeth gynnar

"Mae'n rhaid gwneud yn si诺r hefyd bod digon arian yn cael ei wario ar atal digartrefedd ac ar ymyrraeth gynnar fel ein bod ni'n mynd at wraidd y broblem cyn bod person ifanc yn mynd i argyfwng.

"Dwi'n credu bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r broblem ac maen nhw'n gwario arian ar ymyrraeth gynnar ond mae'n rhaid sicrhau bod hwn yn cynyddu yn yr hir dymor."

Mae'r gwariant hwn yn rhan o gyllideb gwerth 拢10m gafodd ei gyhoeddi gan gyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones gyda'r bwriad o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Gweinidog Tai, Julie James eisiau datrys problemau pobl ifanc digartref mewn ffordd sy'n eu helpu i osgoi ffordd o fyw sy'n "ailadrodd ei hun"

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James: "Rydw i am rwystro pobl rhag profi digartrefedd o gwbl ond lle bydd yn digwydd, rydw i am iddo fod yn ddigwyddiad prin, byrhoedlog na fydd yn dechrau ar batrwm o ailadrodd ei hun.

"I bobl ifanc, gall ansicrwydd o ran cael cartref sefydlog olygu dyfodol sy'n go ddu, yn anghyfiawn a heb gyfleoedd digonol.

"Mae'r prosiectau hyn yn ffyrdd arloesol o atal a datrys digartrefedd ymhlith ieuenctid, yn delio 芒'r achosion ac yn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael pan fydd ei angen."

Dywedodd y gweinidog hefyd bod y llywodraeth yn bwrw ati i godi mwy o dai, yn enwedig rhai ar gyfer rhentu cymdeithasol.

"Mae'n rhaid i ni sortio'r cyflenwad tai achos mae'n rhaid bod digon o dai i bawb fyw ynddyn nhw, ac wedyn mae angen iddyn nhw gael y sgiliau a'r gefnogaeth i aros yn y cartrefi yna."