Penderfyniad i wrthod paneli solar yn 'ddryswch mawr'
- Cyhoeddwyd
Mae cais gan fenter gymunedol i osod paneli solar ar do adeilad yng nghanol Caernarfon wedi cael ei wrthod gan Gyngor Gwynedd gan fod modd gweld yr adeilad o'r Castell.
Ond mae gan y cyngor ei hun nifer helaeth o baneli solar ar eu pencadlys, sydd ar y stryd nesaf, ac sydd hefyd i'w weld yn glir o'r castell.
Penderfynodd y cyngor y byddai gosod paneli a symud y ffenestri presennol ar do Llety Arall yn Stryd y Plas yn "annerbyniol" ac yn cael "effaith andwyol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd".
Dywedodd y pensaer Selwyn Jones, sydd ar bwyllgor Llety Arall, bod y sefyllfa'n "ddryswch mawr" a bod y pwyllgor sy'n rheoli'r fenter yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor.
"Mae Cyngor Gwynedd ei hunan wedi datgan argyfwng hinsawdd," meddai Mr Jones.
"Ydy mae treftadaeth yn bwysig, ond ar ddiwedd y dydd, os nad ydan ni'n datrys y sefyllfa o ran yr argyfwng hinsawdd fydd yna ddim treftadaeth i'w amddiffyn ac i edrych ar ei 么l."
Dywed y cyngor bod cais Llety Arall wedi ei benderfynu "yn unol 芒 pholis茂au cynllunio".
Mae'r awdurdod wedi caniat谩u rhoi panel ar gefn yr adeilad - sydd heb ei restru - ond nid ar ochr flaen y to.
Agorodd Llety Arall ddechrau haf eleni fel bod ymwelwyr yn gallu cael profiad o aros mewn ardal lle mae'r Gymraeg i'w chlywed ymhob man o'u cwmpas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019