Golwg ar dwf aruthrol cerddoriaeth iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Yn y flwyddyn ddiwethaf mae cerddoriaeth iaith Gymraeg wedi cael ei ffrydio 8.5 miliwn o weithiau.
Daw'r ffigyrau gan PYST - y dosbarthwr ar gyfer dros 50 o labeli cerddoriaeth iaith Gymraeg.
Mae'r ffrydiau hyn yn dod o lwyfannau fel Spotify, YouTube, Apple Music a Deezer.
Y DJ Huw Stephens sydd wedi bod yn cymryd golwg ar y s卯n iaith Gymraeg, a cheisio egluro sut mae'n ffynnu mor llwyddiannus yn ddiweddar.
Mae'n swnio fel rhywbeth mor normal i'w wneud: Mwynhau cerddoriaeth ble mae'r lleisiau'n cael eu canu yn eich iaith eich hun. Efallai eich bod chi erioed wedi meddwl am y peth.
Ond mae hi ychydig yn wahanol pan mai Cymraeg yw'r iaith.
Mae rhywbeth arbennig wedi digwydd yn ddiweddar yn y s卯n gerddoriaeth iaith Gymraeg.
Mae 'na synnwyr o ryddid creadigol sydd wedi rhoi egni i grewyr cerddoriaeth ifanc yng Nghymru'n ddiweddar.
Alffa - deuawd roc o Lanrug - yw'r artist iaith Gymraeg sydd wedi cael eu ffrydio fwyaf erioed, gyda 3 miliwn o ffrydiau hyd yn hyn ar gyfer eu senglau Gwenwyn a Pla.
Mae Sion Land a Dion Jones o Alffa yn rhan o s卯n sy'n meddwl yn annibynnol, sy'n amrywiol ac eclectig, yn cynnwys bandiau, artistiaid gwerin ac electroneg, gyda'r iaith Gymraeg yn eu clymu at ei gilydd.
'Ddim yn meddwl dwywaith'
Fe wnes i siarad 芒 Gwenno yn ystod Tafwyl, ble wnaeth dros 40,000 fynychu eleni.
Mae hi wedi rhyddhau dau albwm - un mewn Cernyweg ac un yn Gymraeg.
Dywedodd hi fod albwm Mwng gan y Super Furry Animals, albwm cwbl Gymraeg gafodd ei ryddhau yn 2000, yn garreg filltir ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.
"I wneud hynny mewn cyfnod ble roedden nhw mor boblogaidd, roedd hynny'n drobwynt," meddai Gwenno.
"Fe wnaeth hynny roi rhyw fath o faen prawf i bobl, ac mae fel unrhyw record arall y Super Furry Animals - anhygoel.
"Rydych chi'n siarad 芒 phobl am gerddoriaeth iaith Gymraeg ac nid genre yw e, dyma'r ffordd hawsaf i ganu a dydyn nhw ddim yn meddwl dwywaith amdano."
Y Gymraeg yn teithio'r byd
Dywedodd Gruff Rhys o'r Super Furry Animals bod casgliad Cam o'r Tywyllwch gan Rhys Mwyn yn un o'r recordiau pwysicaf yn hanes cerddoriaeth iaith Gymraeg fodern.
"Roedd o fel cael cerddoriaeth gr锚t ar drip. Doedd pobl ddim yn gallu ei anwybyddu," meddai.
"Ond mae heddiw yn gyfnod gwahanol - mae pobl yn llawer mwy agored i gerddoriaeth o genedligrwydd neu ddiwylliant gwahanol."
Mae Gruff yn paratoi i ryddhau albwm Cymraeg newydd - Pang! - ac iddo ef mae creu record yn yr iaith yn beth cwbl naturiol i'w wneud.
Ond bydd ei albwm ef, a cherddoriaeth gan fandiau fel Alffa, Gwenno ac Adwaith a llawer mwy, yn teithio'r byd.
Mae eu dylanwad diwylliannol yn cadw'r iaith yn un berthnasol, diddorol, creadigol ac allweddol, mewn cyd-destun byd eang, yn anferth.
Art of Now: Cymru Rising, 大象传媒 Radio 4 ddydd Mawrth am 11:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019