Bryn Terfel: Bywyd prysur y canwr o Bantglas
- Cyhoeddwyd
Ar Ddydd Llun G诺yl y Banc, 26 Awst, mewn rhaglen arbennig ar 大象传媒 Radio Cymru, aeth Garry Owen y tu 么l i lwyfan y T欧 Opera yn Covent Garden i holi'r canwr byd-enwog Bryn Terfel.
Mae Bryn newydd fod yn chwarae rhan Scarpia yn Tosca gan Puccini a rhan Boris Godunov yn yr opera gan Musorgsky - y ddwy yn y T欧 Opera yn Covent Garden - ac mae newydd briodi.
Felly beth sy'n gwneud Bryn Terfel yn feistr ar ei grefft?
Dwy ran fawr i'r canwr
"Dwi 'di torri rheol a deud y gwir, i beidio canu dwy opera ar 么l ei gilydd mewn un t欧 opera. Nesh i rioed 'neud o, a mwya' sydyn ges i'r cynnig o wneud Scarpia yn Tosca a Boris Godunov. Dim ar yr un pryd wrth gwrs, ond mae'r perfformiada' wedi bod ynghymysg 芒 ymarfer i'r llall.
"Torri'r rheol i un o'r tai opera gora'n y byd a teimlo'n eitha' ffodus mod i wedi cael gwahoddiad i wneud y fath rannau. Os oes 'na rannau lle 'da chi'n edrych ymlaen i'r olygfa gynta' 'da chi'n rhan ohono fo - mae Scarpia yn un - ma' hwnna yn rhywbeth ddyliach chi fwynhau.
"Mae'r hen darw ifanc wedi dechrau slofi. Rhyw hen darw ydw i 'wan felly dwi'n cymryd y cyfleon yma gan fod yn sylwgar i'r ffaith efallai na ddaw y cyfleon yma ddim eto."
'Byd caled' perfformio
Dechreuodd yrfa Bryn mewn eisteddfodau ledled Cymru. Mae bellach wedi bod yn ganwr proffesiynol am 30 mlynedd, ond mae dal i gofio'r blynyddoedd cynnar hynny, a'r cyngor amhrisiadwy a dderbyniodd gan un o'i arwyr, Syr Geraint Evans, flynyddoedd maith yn 么l.
"O'n i fel ryw geffyl yn ei ddilyn o a'r rhannau oedd o wedi eu canu. Y peth cynta' ddudodd o wrtha i oedd 'Bryn, torra dy wallt a phryna siwt newydd. Mwynha bob un rhan wyt ti'n ganu, yn enwedig y rhai 'nes i ganu ymhob twll a chornel o'r byd.'
"Mae o'n fyd caled. Mi allwch chi fod yn lwcus a canu i'r person iawn neu i'r t欧 opera cywir ond mae 'na elfen o lwc hefyd ar ben cael talent a dawn. 'Di'r canran o lwyddiant mewn clywediad ddim yn un uchel iawn gan neb."
Er ei fod bellach yn enw mawr ym mhedwar ban y byd, dydi hynny ddim yn golygu y gallai Bryn ymlacio a stopio ymdrechu. Mae gofyn iddo ddechrau meddwl am ddysgu darnau newydd flwyddyn o flaen llaw, ac mae'n aml yn cael cymorth gan arbenigwyr iaith.
"Fydda i'n cael hunllefa' weithia' ohona i'n dod i d欧 opera am ymarfer cynta' a dwi ddim 'di dysgu'r gwaith a fydda i'n chwys doman yn fy ngwely yn meddwl y fath beth.
"Gyda Boris Godunov, mae Rwsieg yn eithaf agos i'r iaith Gymraeg a dweud y gwir. Y ddwy 'l' ydi'r broblem ond 'na fo, hwnna sy'n waith i fi i gywiro'n hun.
"Dwi'm 'di cael 'y ngeni i fod yn actor ac yn ganwr ar lwyfan, ond mi wna i weithio'n galed i gyflawni rhywbeth i rywun sy'n cydweithio efo fi yn y busnes yma. Os oes gynno chi gynhyrchydd arbennig, mae'r gwaith yma'n hawdd."
Cefnogaeth y teulu
Ynghyd 芒'r holl waith dysgu, ymarfer a pherfformio, mae'n ddiweddar wedi priodi'r delynores Hannah Stone, ac mae gan y ddau ferch fach gyda'i gilydd, sef Lili.
"Mae'n bwysig fod gynno chi rhywun yn y gynulleidfa da chi yn meddwl neith fod yn hollol onest efo chi.
"Os oes 'na rhan mewn rhai oper芒u lle dwi damed bach yn boenus ohono fo, mi wneith hi [Hannah] gadw llygad ar hynny. Ac mae hi'n gerddor felly mae hi'n medru adnabod y llais a gweld y ffaeleddau.
"Mae hi wrth ei bodd yn dod draw i'r t欧 opera a mae'n cael noson oddi wrth edrych ar 么l Lili, os 'da ni'n cael rhywun i edrych ar ei h么l hi. Mae Tomos y mab yn dod fyny wythnos nesaf i weld Boris Gudenov a fydd ynta' 芒 diddordeb clywed ei dad yn perfformio hefyd."
Felly, ag yntau wedi taclo rhai o rannau mawr y byd opera, beth nesaf i Bryn Terfel?
"Efallai rhannau sydd 芒 mwy o hwyl, mae hynny'n mynd i ddod fewn i'r llais, sydd yn gwneud y llais efallai yn fwy addfwyn.
"Fydda i'n gwneud cwpwl o oper芒u gan Donizetti, gan Rossini yn y pum mlynedd nesa'. Mae o wedi cael ei mapio allan yn berffaith gan fy asiant yn barod.
"Nes i berfformio Sweeney Todd efo Emma Thompson a mi 'nath hi ddeud 'swn i'n licio bo' chdi'n rhan o ryw ffilm, ond dio'm 'di cyrraedd eto!"
Hefyd o ddiddordeb: