Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rotorua, Wellington a Twickenham: Gemau cofiadwy Cymru
- Awdur, Gareth Charles
- Swydd, Gohebydd Cwpan Rygbi'r Byd, 大象传媒 Cymru
Gyda Chwpan Rygbi'r Byd 2019 yn dechrau yn Japan ar 20 Medi, mae Gareth Charles yn dechrau cyfres o golofnau drwy restru ei atgofion melysaf o Gymru yn y bencampwriaeth dros yr holl flynyddoedd mae wedi bod yn sylwebu arni:
Cwpan y Byd 1987 (Seland Newydd ac Awstralia)
Pan gyhoeddwyd bod Cwpan Rygbi'r Byd i gael ei gynnal yn 1987 doedd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl ond erbyn i gapten Seland Newydd, David Kirk, godi Tlws Webb Ellis roedd y byd rygbi ar fin newid a bellach mae popeth yn troi mewn cylchoedd o bedair blynedd.
Os oedd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl doedd neb chwaith yn disgwyl i Gymru orffen yn drydydd - ond dyna wnaethon nhw dan gapteiniaeth Richard Moriarty a dan arweiniad Jonathan Davies a set o olwyr talentog a oedd yn cynnwys Robert Jones, John Devereux, Mark Ring, Adrian Hadley ac Ieuan Evans.
Roedd g锚m y trydydd safle yn erbyn Awstralia yn Rotorua yn dynn, cystadleuol a dadleuol - Awstralia lawr i 14 o fewn pum munud a'r fantais yn newid dwylo'n gyson. Ar ei h么l hi 芒 munudau i fynd fe sgoriodd Adrian Hadley gais gwych yn y gornel, a gyda throsiad Paul Thorburn reit o'r ystlys, Cymru oedd yn dathlu buddugoliaeth 22-21. Trydydd yn y byd - safle gorau Cymru yn y gystadleuaeth hyd heddiw.
Cwpan y Byd 1999 (Cymru, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, Yr Alban)
Yn 1999 roedd Cymru wedi llwyddo i wahodd y byd rygbi i'w cartre' nhw (ynghyd 芒 gweddill Prydain a Ffrainc!). Roedd ganddyn nhw stadiwm newydd sbon ar gyfer yr achlysur ac roedd gan y seremoni agor naws ddiedifar Gymreig - o'r corau meibion a Bryn Terfel i Catatonia, Max Boyce a Shirley Bassey yn ei gwisg Draig Goch.
Ac roedd gan Gymru d卯m teilwng o'r achlysur hefyd. Dan adain Graham Henry roedden nhw ar rediad o naw g锚m heb golli pan agorwyd y gystadleuaeth gyda'r g锚m yn erbyn yr Ariannin. Colin Charvis gafodd y fraint o sgorio cais cynta'r gystadleuaeth a Chymru'n sicrhau buddugoliaeth glos 23-18.
Daeth y rhediad i ben bythefnos wedyn yn erbyn Samoa - mewn g锚m lle rhoddodd Neil Jenkins ei enw yn y llyfrau hanes fel y chwaraewr rygbi cyntaf i gyrraedd mil o bwyntiau rhyngwladol. Ac fe ddaeth rhediad Cymru yn y Cwpan i ben yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Awstralia, ond roedd Cymru n么l ar fap rygbi'r byd.
Cwpan y Byd 2003 (Awstralia)
Stadiwm Telstra, Sydney, oedd y lleoliad ar gyfer un o'r gemau mwyaf anhygoel yn hanes rygbi Cymru. Ar 么l ennill tair mas o dair roedd Cymru'n saff yn rownd yr wyth olaf ond ar gyfer g锚m ola'r gr诺p yn erbyn Seland Newydd fe synnodd Steve Hansen bawb gan wneud deg newid a rhoi gemau cyntaf i Garan Evans yn gefnwr a Shane Williams oedd wedi bod yn s芒l yn ei wely drwy'r wythnos.
糯yn i'r lladdfa oedd rhagdybiaeth pawb, yn enwedig ar 么l i Joe Rokocoko sgorio o fewn dwy funud, ond fe dr枚wyd y disgwyliadau ar eu pen gyda Shane yn disgleirio a Chymru'n chwarae rygbi cwbl wefreiddiol. Am y tro cyntaf erioed fe sgoriodd Cymru bedwar cais yn erbyn y Crysau Duon a phan groesodd Shane am y pedwerydd, ychydig wedi'r egwyl, roedd Cymru ar y blaen a phawb yn gegrwth!
Fe ddaeth y Crysau Duon n么l i ennill 53-37. 90 o bwyntiau, 12 cais ac er bod Cymru wedi colli'r g锚m roedden nhw wedi ennill calonnau cefnogwyr o bob gwlad.
Cwpan y Byd 2011 (Seland Newydd)
Ar 么l y siom o fethu dod mas o'r gr诺p yn Ffrainc yn 2007 roedd y disgwyliadau'n fawr yn 2011 a Warren Gatland yn dychwelyd i'w famwlad. Er colli o bwynt i Dde Affrica fe lwyddodd Cymru i gyrraedd rownd yr wyth ola'n gyffyrddus - ac yn eu haros nhw, Iwerddon.
Os oes un chwaraewr wedi llwyddo i fynd dan groen y Gwyddelod, Mike Phillips yw hwnnw. Roedd ei gais, gan ddefnyddio'r b锚l anghywir yng Nghaerdydd ychydig fisoedd ynghynt, yn dal yn fyw yn y cof ond doedd dim dadleuol am y cais hollbwysig sgoriodd e yn Wellington - perl o gais unigol o amgylch ochr dywyll sgarmes a hedfan drwy'r bwlch lleiaf i dirio yn y gornel.
Erbyn i Jon Davies ychwanegu cais hwyr doedd hynny ond eisin ar y gacen - buddugoliaeth gyffyrddus 22-10 a Chymru yn y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers y gystadleuaeth gyntaf un. Trueni bod Gwyddel arall - Alain Rolland yn eu haros nhw!
Cwpan y Byd 2015 (Lloegr a Chymru)
Gyda Chymru, Lloegr ac Awstralia yn yr un gr诺p roedd un o'r gwledydd mawr ddim yn mynd i gyrraedd y chwarteri a doedd y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth erioed wedi methu dianc o'r gr诺p.
Felly roedd hyd yn oed mwy o arwyddoc芒d i ymweliad Cymru 芒 Twickenham ddiwedd Medi 2015. Roedd yr awyrgylch yn danbaid - yn fwy heriol nag arfer ac yn help i godi'r Saeson ar gyfer yr achlysur. Nhw gafodd y gorau ohoni - 19-9 ar yr egwyl yn mynd yn 22-12 芒 hanner awr i fynd. Roedd natur gorfforol y g锚m yn dangos gyda Chymru'n colli Scott a Liam Williams a Hallam Amos gydag anafiadau.
Ond yn eironig fe drodd yn achubiaeth i Gymru gyda'r mewnwr Lloyd Williams yn gorfod chwarae ar yr asgell chwith. Yn hwyr iawn yn y g锚m fe saern茂odd gic ryfeddol i alluogi'r mewnwr arall Gareth Davies i dirio dan y pyst i ddod 芒 Chymru'n gyfartal. Roedd angen cic gosb arall gan y dibynadwy Dan Biggar (sgoriodd record o 23 pwynt) i ennill y g锚m. Yn 么l rhai buddugoliaeth fwyaf Cymru ar dir estron a sylwebwyr diduedd 大象传媒 Cymru yn cael eu dal ar fideo yn dawnsio mewn gorfoledd!