Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prosiect artistig yn cynnig llythrennau newydd i'r Gymraeg
- Awdur, Si么n Pennar
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae cynigion ar gyfer llythrennau newydd i'r Gymraeg wedi cael eu datgelu fel rhan o brosiect artistig yn Wrecsam.
Gobaith y dylunydd Carl Edwards yw gwneud i'r iaith "edrych yn unigryw" drwy gyfnewid llythrennau dwbl am symbolau newydd.
Mae'n rhan o gywaith ehangach sy'n ceisio adlewyrchu hunaniaeth Cymru ar arwyddion ffordd.
Yn 么l llywodraethau Cymru a'r DU, does dim bwriad newid gwedd yr arwyddion ar hyn o bryd.
'Hunaniaeth genedlaethol'
Cafodd Mr Edwards, sy'n 55 ac yn fyfyriwr MA ym Mhrifysgol Glynd诺r, ei ysbrydoli gan deithiau i Wlad Pwyl a Groeg.
"Amcan y prosiect ydy creu hunaniaeth genedlaethol gryf i Gymru drwy arwyddion ffyrdd," meddai Mr Edwards, sy'n byw yn Yr Wyddgrug.
"Wnes i ddylunio wyth llythyren newydd i gymryd lle'r llythrennau dwbl yn yr iaith Gymraeg.
"Er enghraifft, does 'na ddim s诺n 'd' yn 'dd' o gwbl, nag oes? Felly pam ddim rhoi symbol newydd i mewn ar gyfer y s诺n?"
Dywedodd bod Pwyleg yn un esiampl o iaith sydd 芒 llythrennau unigryw. Yno mae'r llythyren '艂' yn cyfleu'r 'w' Gymraeg.
"Dwi'n meddwl bod Cymraeg yn iaith unigryw gyda synau unigryw - ac mae hi'n haeddu edrych yn unigryw," meddai Mr Edwards.
Ymysg y dylanwadau ar lythrennau newydd Mr Edwards mae Coelbren y Beirdd - system ysgrifennu gafodd ei llunio gan Iolo Morgannwg yn y 18fed ganrif.
A dydy arbrofi gyda'r wyddor Gymraeg ddim yn beth newydd, yn 么l Dr Dylan Foster Evans, pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.
"Roedd 'na unigolion fel William Owen Pughe ar ddechrau'r 19eg ganrif aeth ati'n fwriadol i sillafu'r Gymraeg mewn ffordd newydd," meddai.
"Defnyddiodd symbolau gwahanol i gyfleu 'ch' ac 'dd'. Ac mae 'na unigolion ar hyd y blynyddoedd wedi defnyddio'r llythyren 'delta' Groegaidd - 未 - i gyfleu 'dd'."
'Anodd iawn eu newid nhw'
Ond ychwanegodd fod y ffordd safonol bresennol o gyfleu synau'r Gymraeg mewn 'sgrifen wedi ennill ei phlwy bellach.
"Dwi ddim yn meddwl bod neb ar hyn o bryd yn mynd i fod yn gallu newid unrhyw beth yn sylfaenol yn hawdd iawn," meddai.
"'Da ni 'di arfer gyda phrint, 'da ni 'di arfer gyda'r we, 'da ni wedi arfer gweld y llythrennau 'ma ac mae'n anodd iawn eu newid nhw r诺an."
Dywedodd llywodraethau Cymru a'r DU nad oes bwriad newid arwyddion ffordd Cymru ar hyn o bryd.
Bydd arddangosfa o brosiect Mr Edwards, a myfyrwyr eraill Prifysgol Glynd诺r, i'w gweld yn oriel Undegun yn Wrecsam ym mis Hydref.