Pam nad oes 'na 'k' yn y Gymraeg?

Wrth i ddylunydd o Gymru gynnig symbolau newydd i gynrychioli rhai o synau'r iaith Gymraeg dyma ichi hanes un symbol sydd wedi ei golli o'n gwyddor ni.

Dyw'r llythyren 'k' ddim yn yr wyddor Gymraeg ond mae i'w gweld yn ein chwaer-ieithoedd, y Llydaweg a'r Gernyweg, yn ogystal 芒 Saesneg.

Yn 么l yr hanes, prinder mewn argraffdy yn Llundain yw'r rheswm am absenoldeb y llythyren hon oedd yn arfer bod yn rhan o orgraff yr iaith.

"Yn 么l y s么n, does na ddim 'k' yn Gymraeg gan eu bod wedi rhedeg allan o'r llythyren 'k' yn yr agraffdy yn Llundain adeg cyfieithu'r Beibl," meddai'r prifardd Aneirin Karadog.

"Roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio 'c' yn lle hynny.

"A dyna sydd wedi arwain at golli'r defnydd o'r 'k' yn y Gymraeg.

"Felly nid ryw academyddion mawr wedi cwrdd i benderfynu bod y 'k' ddim i gael ei ddefnyddio rhagor ond anghenion argraffu sydd wedi arwain at golli'r defnydd o'r llythyren - dyna'r stori beth bynnag!"

Disgrifiad o'r llun, Mae'r prifardd Aneirin Karadog yn falch o'r 'K' yn ei enw

Cyn cyfieithu'r beibl yn y 16 Ganrif roedd y llythyren yn gyffredin yn y Gymraeg ac mae'n debyg nad oedd y newid yn boblogaidd.

Un o gyfieithwyr y Testament Newydd oedd William Salesbury ac roedd y symbol 'k' yn amlwg mewn dau o'r llyfrau roedd wedi eu cyhoeddi cyn argraffu'r Beibl yn 1588, sef Oll Synnwyr Pen Kembero Ygyd yn 1547 a Kynniver Llith a Ban yn 1551.

Roedd un o weithiau llenyddol enwocaf Cymru, Pedair Cainc y Mabinogi, yn cael ei sillafu'n wreiddiol gyda 'k': Pedair Keinc y Mabinogi.

Mae'r symbol wedi parhau yn y Llydaweg a'r Gernyweg gan adlewyrchu hen ffurfiau Brythonaidd o sillafu.

Ei dras Lydewig ar ochr ei fam sydd wedi rhoi'r 'K' yn enw Aneirin Karadog ac mae'r bardd yn falch iawn ohono.

"Mae'n ffaith fach unigryw rwy'n ymfalch茂o ynddo fe ac mae'n destun trafod wrth arwyddo pethau mewn siop neu wrth dalu am bethau gyda chardiau ac yn y blaen.

"Roedd fy ngwraig yn falch o allu dweud 'it's Karadog with a 'K'' ar 么l iddi gymryd fy enw hefyd!"

Hen orgraff yr iaith

Roedd y llythyren 'v' hefyd yn arfer cael ei defnyddio yn y wyddor Gymraeg.

Y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu oedd Yny Lhyvyr Hwn (Yn y llyfr hwn) yn 1546, sy'n dangos bod y llythyren 'll' hefyd wedi ei chyfleu mewn ffordd wahanol bryd hynny.

Doedd y llythyren 'j' ddim yn y wyddor Gymraeg ers talwm ond wrth i eiriau bethyg fel 'jam' a 'jwg' ddod i'r iaith mae'n cael ei chynnwys fel arfer erbyn hyn.

Yn ei gynigion ar gyfer y symbolau newydd mae'r dylunydd Carl Edwards yn awgrymu llythyren newydd i gynrychioli 'dd' sy'n debyg i'r llythyren oedd yn hen orgraff yr iaith - 冒, sef y llythyren 'delta' Groegaidd.

Disgrifiad o'r llun, Rhai o gynigion Carl Edwards ar gyfer yr wyddor

Mae honno'n ymddangos yn y beiblau Cymraeg cynharaf.

Mae'r ffordd rydyn ni'n sillafu'r iaith heddiw wedi ei seilio ar arferion ddatblygwyd yn y 19eg Ganrif.

Er bod anghytuno dros y blynyddoedd cafodd ei safoni yn 1859 ac ar 么l amrywiadau cafodd orgraff fodern y Gymraeg ei chadarnhau yn 1928 gan Bwyllgor Iaith a Llenyddiaeth y Bwrdd Gwybodau Celtaidd.

Ond ydy hi'n bosib bod gobaith i'r llythyren 'k' eto? Yn 2016 un o addewidion etholiadol y Monster Raving Loony Party oedd "cyflwyno'r llythyren K i wyddor yr iaith Gymraeg".

Hefyd o ddiddordeb: