大象传媒

Cynllun i ailagor tafarn y Cross Foxes yn Nhrawsfynydd

  • Cyhoeddwyd
Cross Foxes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tafarn y Cross Foxes wedi bod ynghau ers mis Ionawr 2018

Mae cynghorydd lleol wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus gyda'r nod o sefydlu cwmni cymunedol er mwyn ailagor tafarn y Cross Foxes yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd.

Ar hyn o bryd does yr un tafarn yn y pentref, ond mae'r Cynghorydd Elfed Wyn Jones o Gyngor Cymuned Trawsfynydd eisiau newid hynny.

"Deng mlynedd yn 么l roedd 'na dair tafarn yma - Y Llew Gwyn a gaeodd yn 2006, y Rhiw Goch a losgodd lawr llynedd, ac fe gaeodd y Cross Foxes yn Ionawr 2018 hefyd," meddai.

"Mae hi'n golled ofnadwy - dydy'r gymuned ddim yn teimlo'n gyflawn heb dafarn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dydy'r gymuned ddim yn teimlo'n gyflawn heb dafarn," medd Elfed Wyn Jones

Gobaith Mr Jones ydy edrych ar y posibilrwydd o gael y gymuned i brynu'r Cross Foxes, ac mae wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus fis nesaf i weld os oes gan bobl leol ddiddordeb gwneud hynny.

"Dwi wedi trefnu'r cyfarfod cyhoeddus ac mae 'na lot fawr o bobl wedi dangos diddordeb yn barod a dangos brwdfrydedd," meddai.

"Dwi'n obeithiol y bydd pobl y pentre' eisiau gweld hyn yn digwydd."

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Bentref Trawsfynydd ar nos Wener, 27 Medi.