Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dirgelwch llythyren ddieithr yn Nyffryn Nantlle
Mae yna symbol dieithr wedi cael ei ganfod yn Nyffryn Nantlle, sydd yn achosi cryn grafu pen.
Yn hen chwarel lechi Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle, mae rhes bychan o dai chwarelwyr, sydd yn cael eu galw yn Barics Pen y Bryn. Er fod adeilad wedi bod yno ers y 17eg ganrif, mae'r bythynnod yn dyddio o 1866.
Yn ddiweddar, mae wedi bod yn brysur yn clirio a chloddio'r safle i geisio darganfod mwy am fywydau'r chwarelwyr, a'u teuluoedd, oedd yn byw yno.
Wrth glirio'r llecyn tir o flaen y tai daeth carreg fawr i'r golwg ac arni graffiti o'r 1800au ar ffurf priflythrennau enw rhywun. Mae un o'r symbolau'n unigryw a bu dyfalu beth yn union oedd ei hystyr.
Mae'n edrych fel 'I' fawr â llinell drwy ei chanol. Mae nifer o aelodau'r cyhoedd wedi bod yn ymweld â'r safle hefyd fel rhan o gynllun i ddenu pobl at archaeoleg, ond hyd yn hyn does neb wedi cynnig ateb am ystyr y symbol.
Cyd-ddigwyddiad
Un sydd wedi cymryd diddordeb arbennig yn hyn yw'r archaeolegwr Rhys Mwyn, nid yn unig oherwydd ei fod yn rhan o'r gwaith cloddio ond oherwydd fod y llythyren hefyd yn ymddangos ar garreg fedd ei hen ewythr, gan roi cliw i'w hystyr.
"Roedd cof plentyn gennyf am garreg fedd fy hen ewythr John Richard Thomas, Cilgwyn. Roedd o'n frawd i fy nain," meddai Rhys Mwyn.
"Dim ond ei brif lythrennau oedd ar y garreg fedd hynod hon ac roedd yr ysgrif yn darllen 'IRT' gyda llinell ar draws yr 'I' yn hytrach na 'JRT' fel byddai rhywun wedi ei ddisgwyl ar gyfer John Richard Thomas.
"Gan fod hanes sicr i'r llythrennau ar y garreg fedd, mae'n weddol sicr mai 'J' mae'r symbol yn ei olygu felly nid dyfalu sydd yma.
"Rydym yn gwybod pwy oedd John Richard. Mae lluniau ohono ym meddiant y teulu. Bu'n gweithio yng Nghilgwyn yn y chwarel, ond oherwydd fod ganddo nam ar ei goes mae'n debyg ei fod yn gwneud gwaith glanhau yn y siediau yn hytrach na gweithio ar wyneb y graig. Bu farw yn ddyn ifanc yn 34 oed.
"Wrth drafod y 'J' daeth yn weddol amlwg yn weddol sydyn nad oedd fawr o neb wedi dod ar draws y symbol yma o'r blaen. Gofynnwyd y cwestiwn os oedd hyn yn rhywbeth arbennig i Ddyffryn Nantlle? Hyd yma ni chafwyd ateb i hyn."
Enghraifftiau eraill
Mae Rhys Thomas o Ros Isaf ger Caernarfon hefyd yn holi beth yw ystyr y llythyren wedi iddo ddod ar ei thraws ar garreg ger Llyn Ffynhonnau ger Y Fron sydd yn rhan uchaf Dyffryn Nantlle.
Mae hyn yn atgyfnerthu'r theori mai rhywbeth unigryw i'r dyffryn yw, ond gan fod y symbol hefyd yn ymddangos ar gerrig beddi ym mynwent Eglwys Crist ym mhentref Deiniolen, lle roedd hefyd chwarel, mae lle i gredu efallai ei fod yn rhywbeth unigryw i ardal y chwareli.
Meddai Rhys Mwyn: "Dim yn aml mae gwreiddiau teuluol rhywun yn dod yn berthnasol i'r broses archaeolegol. Yn amlach na pheidio mae rhywun yn cloddio safleoedd canol oesol neu cyn-hanesyddol neu Rufeinig. Y tro yma cefais brofiad gwahanol iawn.
"Dyddiau yn cloddio allan yn yr awyr iach yw'r dyddiau gorau ond mae cael cysylltiad â fy nghyn-deidiau wedi gwneud y gwaith cloddio ym Mhen y Bryn yn arbennig iawn, yn fythgofiadwy ac i raddau, yn emosiynol."