Synesthesia: Gweld llais a chlywed llun

Mae Siwan Rhys o Gaerdydd yn wreiddiol, ond bellach yn gweithio fel pianydd proffesiynol yn Llundain, yn arbenigo mewn perfformio cerddoriaeth gyfoes ac arbrofol.

Mae ganddi hi'r ffenomenon niwrolegol synesthesia, sy'n golygu ei bod hi'n gweld lliwiau pan mae hi'n clywed cerddoriaeth - rhywbeth sydd wedi rhoi profiad unigryw iddi wrth iddi ddatblygu ei thalent a'i gyrfa.

Cafodd Siwan air gyda Cymru Fyw am sut beth yw hi i fyw mewn byd llawn lliw.

Ffynhonnell y llun, Dimitri Djuric

Beth yn union yw synesthesia?

Rhyw fath o gyswllt neu gymysgedd ydi o rhwng y synhwyrau.

Pan dwi'n clywed sain o unrhyw fath - fel cerddoriaeth, lleisiau pobl, neu beep car neu meicrodon - dwi'n 'gweld' lliw.

Wrth gwrs, gweld lliwiau yn fy meddwl ydw i. Weithiau mae pobl yn camddeall ac yn gofyn os ydw i dal yn gallu gweld pethau o nghwmpas i os ydi'r lliw yn y ffordd!

Dwi hefyd yn gweld lliwiau pan dwi'n darllen, ac wrth weld darn o gerddoriaeth ar bapur.

Pan mae rhai pobl eraill sydd 芒 synesthesia yn gweld lliw, mi gawn nhw rhyw fath o stimulus mewn synnwyr arall, fel blas yn eu ceg yr un pryd.

Mae'n wahanol i bawb ac mae niwrolegwyr dal yn ei astudio fo.

Ers pryd wyt ti wedi bod 芒'r cyflwr yma?

Mae o'n rhywbeth 'da chi'n cael eich geni efo fo. Ond 'nes i ond sylweddoli fod o gen i pan o'n i'n y flwyddyn gynta'n y brifysgol pan 'nath darlithydd s么n am y peth. O'n i'n meddwl fod pawb yn gallu gwneud hyn! 'Nes i ddechrau sylwi arno fo lot mwy wedyn.

Wyt ti'n gweld yr un lliwiau o hyd?

Mae'r lliw dwi'n ei weld yn dibynnu ar y sain dwi'n ei glywed, ac ansawdd y sain hwnnw - os ydi o wedi cracio, neu fel sain d诺r, er enghraifft. Mae bron fel mod i'n gallu gweld dirgryniadau'r sain, felly weithiau mae'r lliwiau yn newid.

Yn gyffredinol, mae gan leisiau pobl fwy neu lai yr un lliw. Mae fy llais i'n llwyd golau.

Pan dwi'n gweld geiriau, mae'r lliwiau yr un fath, gan fod gen i liwiau penodol i lythrennau'r wyddor.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Siwan yn gweld lliwiau gwahanol wrth ddarllen nodau a llythrennau - felly sut mae Hen Wlad Fy Nhadau yn 'edrych' i Siwan?

Yn y gair banana, gan fod yna gymaint o 'A's ynddo fo, hwnnw 'di'r lliw sy'n neidio allan fwyaf. Digwydd bod, melyn ydi lliw banana i mi, gan fod 'A' yn felyn. Dyna un o'r pethau oedd yn creu lot o bleser i mi fel plentyn, pan oedd pethau fel'na yn gwneud synnwyr.

Mae'n enw i, Siwan, yn wyn ac yn felyn. Dwi'n gweld dau floc o liwiau annibynnol, gyda'r 'A' melyn ar y diwedd yn eitha' cry', ond yr 'SI' ar y dechrau yn wyn.

Ydy cryfder y lliwiau yn cynrychioli pethau gwahanol?

Mae'r shade o liw yn bwysig, ac yn anodd ei egluro.

Pan o'n i'n dod i adnabod y peth, nes i drio ffeindio'r lliwiau penodol dwi'n eu gweld drwy brynu pensiliau lliw lle oeddet ti'n gallu ychwanegu d诺r i'r pensil er mwyn cymysgu lliw arall ato - ond mae'n anodd, gan fod y lliwiau mor benodol.

Mae'r llythrennau 'A' ac 'E' yn shades o felyn, ond maen nhw'n lliwiau hollol wahanol a'r unig beth alla i ei wneud ydi trio esbonio pa fath o felyn.

Ond hyd yn oed os fyddai rhywun yn creu palette o liwiau i mi, mae'n si诺r fyddai rheiny'n dal ddim yn iawn chwaith!

Ffynhonnell y llun, Benjamin Tassie

Disgrifiad o'r llun, Mae Siwan yn arbenigo mewn chwarae cerddoriaeth arbrofol iawn ar y piano - ac weithiau'n defnyddio offerynnau tra gwahanol yn ei pherfformiadau

Ydi o'n beth manteisiol neu anfanteisiol?

Mae rhai pobl yn ei alw yn 'gyflwr', ond mae hynny'n gwneud iddo fo swnio fel rhyw fath o broblem. 'Swn i'n ei ddisgrifio fel ffenomenon o ryw fath.

'Swn i'n dweud ei fod o'n fanteisiol yn gyffredinol. Ma'n golygu fod fy nghof i yn well na'r cof arferol, ond dim ond ar gyfer rhai pethau. Mae gen i gof da am rifau, nodau a llythrennau, gan fod lliw yn gysylltiedig 芒 nhw, ond ar gyfer pethau fel siapiau neu emojis neu bethau fel 'na, mae fy nghof i fel pawb arall.

Dwi'n meddwl ei fod o wedi bod o help mawr efo gwneud cyngherddau piano, oherwydd mae'n fy ngalluogi fi i ddysgu nodau'n gyflym, ac i roi darnau ar y cof yn weddol hawdd.

Dwi wedi perfformio nifer o ddarnau cymhleth ar y cof does llawer o bobl byth wedi mentro trio eu cofio. Dwi'n gallu bron 'darllen' y gerddoriaeth yn fy mhen mewn lliw wrth chwarae, a dwi'n si诺r fod hyn o help.

Ar y cyfan, ma'n gr锚t, er yn 么l ymchwil ma' falle'n golygu fod fy maths i'n waeth na phobl eraill!

A dwi hefyd yn cael trwbl dweud y gwahaniaeth rhwng chwith a dde - ond dim ond yn Saesneg, gan fod y lliwiau i left a right yn rhy debyg i'w gilydd!

Hefyd o ddiddordeb: