大象传媒

拢600m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Sajid Javid
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Sajid Javid (uchod) ei benodi'n Ganghellor gan y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson

Mae'r Canghellor Sajid Javid wedi addo 拢600m yn ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ei Adolygiad Gwariant.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod hyn gyfystyr 芒'r cynnydd mwyaf yn y grant i Gymru ers degawd.

Dywedodd Mr Javid ei fod yn "troi tudalen newydd ar lymder" wrth gyhoeddi mwy o arian ar gyfer addysg ac iechyd yn Lloegr.

Yn y flwyddyn ariannol 2019-20, cyllideb Llywodraeth Cymru oedd 拢18bn.

Mae mwyafrif yr arian yna'n dod o Lywodraeth y DU gyda rhan yn cael ei godi gan drethi yng Nghymru.

Oherwydd Fformiwla Barnett, mae cynyddu gwariant yn Lloegr yn arwain at fwy o arian i'r gwledydd datganoledig.

Etholiad Cyffredinol?

Yn Nh欧'r Cyffredin nos Fercher, mae disgwyl i'r Prif Weinidog Boris Johnson alw am bleidlais er mwyn cynnal Etholiad Cyffredinol.

Fe fyddai'n rhaid iddo ennill yr etholiad hwnnw cyn medru gweithredu'r cyhoeddiadau yn yr Adolygiad Gwariant.

Does dim disgwyl i Lafur gefnogi'r alwad am etholiad tan y daw cadarnhad bod gohiriad i ddyddiad Brexit - 31 Hydref ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.