大象传媒

ASau'n gwrthod etholiad wedi mesur atal Brexit di-gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, UK Parliament
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Boris Johnson mai etholiad cyffredinol ydy'r "unig ffordd ymlaen"

Mae Aelodau Seneddol wedi cefnogi mesur i atal Brexit heb gytundeb, ond gwrthod cynnig gan y prif weinidog am etholiad cyffredinol.

Fe wnaeth ASau'r gwrthbleidiau a gwrthryfelwyr Ceidwadol sicrhau bod y mesur ar Brexit yn pasio yn Nh欧'r Cyffredin gyda mwyafrif o 28.

Mae'r mesur yn gorfodi'r prif weinidog i ofyn am estyniad cyn Brexit os nad oes cytundeb rhwng y llywodraeth a'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r mesur yn symud ymlaen i D欧'r Arglwyddi nesaf.

Yn syth wedyn dywedodd Boris Johnson mai etholiad cyffredinol oedd yr "unig ffordd ymlaen", ond ni wnaeth digon o ASau ei gefnogi i alw etholiad.

Roedd Mr Johnson eisiau cynnal etholiad cyffredinol ar 15 Hydref.

Er bod 298 wedi cefnogi etholiad, a 56 wedi pleidleisio yn erbyn, nid oedd yn ddigon oherwydd bod angen cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau Seneddol.

Cyn y bleidlais, dywedodd llefarydd Llafur ar Brexit, Syr Keir Starmer, wrth ASau ei blaid na fyddai'n cefnogi etholiad tan fod estyniad i gyfnod Brexit wedi ei gytuno gyda'r UE.

Fe wnaeth Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ategu'r farn honno yn Nh欧'r Cyffredin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jane Dodds bod Brexit di-gytundeb yn gwneud pobl yn dlotach

Dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts na fyddai etholiad cyffredinol yn datrys yr "argyfwng sy'n wynebu pedair gwlad y DU" ac felly na fyddai ei phlaid yn pleidleisio dros un.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi etholiad ar hyn o bryd.

Dywedodd AS y blaid, Jane Dodds: "Os wnaeth bobl bleidleisio i aros neu adael, wnaethon nhw ddim pleidleisio dros Brexit di-gytundeb fyddai'n eu gwneud yn dlotach."

'Synnwyr cyffredin'

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, cyn pleidleisiau nos Fercher ei fod "yn optimistig o hyd" y bydd ASau yn "gweld synnwyr cyffredin yn y pen draw" ac yn cefnogi llywodraeth Mr Johnson.

"Ma' 'na gobe'th, ma' 'na hyder, ma' 'na gwaith caled yn mynd ymlaen gan y llywodraeth a gan arweinyddion gwledydd Ewrop fel Angela Merkel, fel bo' ni 'di gweld gan y Taioiseach," meddai, "so 'dwi'n gobeithio o hyd mi fydd pobl yn gweld synnwyr cyffredin yn y pen draw ac yn gweithio tuag at yr addewid bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd."

Fe wnaeth gwelliant gan AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock - yn golygu y gallai fersiwn o gytundeb Theresa May ddod gerbron T欧'r Cyffredin - basio gyda'r mesur Brexit, er nad oedd pleidlais.

Nid yw'n glir pam oherwydd bod disgwyl i aelodau Llafur a'r Ceidwadwyr bleidleisio yn erbyn, ond ni chafodd adroddwyr eu cynnig yn y siambr.

Dywedodd Mr Kinnock mai bwriad y gwelliant oedd sicrhau nad oedd yr estyniad i broses Brexit yn ddi-werth.