大象传媒

Cyflwyno cynlluniau i achub morglawdd Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Holyhead breakwater - photo by David DixonFfynhonnell y llun, David Dixon/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tonnau'n erydu seiliau'r morglawdd

Mae cynlluniau i drwsio a gwella'r morglawdd sy'n amddiffyn porthladd Caergybi wedi cael eu cyflwyno.

Yn 么l Cyngor Sir Ynys M么n, mae tonnau yn erydu seiliau'r morglawdd 1.7 milltir o hyd - y morglawdd hiraf ym Mhrydain.

Fe ddywed y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno ar ran y cyngor na fyddai modd gweithredu'r porthladd ar gyfer llongau fferi heb y morglawdd.

Dywedodd adroddiad blaenorol y gallai'r strwythur gael ei ddryllio ymhen 15 mlynedd os na fyddai gwaith atgyweirio yn digwydd.

Yn 2013 fe wnaeth cwmni Stena Line, sy'n berchen ar y morglawdd, ei bod yn costio oddeutu 拢150,000 y flwyddyn i gynnal a chadw'r strwythur.

Mae'r cynllun i'r atgyweirio yn cael ei ddatblygu ar y cyd rhwng Stena Line, Cyngor Ynys M么n a Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Andrew Woodvine/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r morglawdd wedi amddiffyn porthladd Caergybi ers 1873

"Mae'r morglawdd yn rhan o'r isadeiledd hanfodol er mwyn gweithrediadau'r porthladd, gan roi cysgod o'r elfennau mwyaf eithafol i longau fferi a llongau eraill," medd yr adroddiad.

"Heb y morglawdd mae'n debygol y byddai'r tonnau yn cynyddu tan ein bod mewn sefyllfa nad oes modd rhedeg y llongau fferi, gan arwain at gau'r porthladd a cholli'r cyswllt rhyngwladol i Iwerddon o Gymru a Lloegr."