Gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2020 dal yn fyw
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithio Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 yn dal yn fyw o drwch blewyn er gwaetha' perfformiad siomedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.
Roedd angen peniad hwyr gan Gareth Bale - a groesodd y llinell o drwch blewyn yn unig - i sicrhau'r fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn y t卯m oedd yn 109 ar restr detholion y byd.
Fe ddechreuodd y g锚m yn araf dros ben gyda'r cefnogwyr yn dechrau anesmwytho wrth i Gymru fethu 芒 chreu cyfle clir yn y munudau agoriadol.
Ond fe ddaeth g么l o ffynhonnell annisgwyl wedi 25 munud. Fe wyriodd ergyd Gareth Bale o bell, ond doedd dim perygl amlwg tan i Pavel Pashayev geisio penio'r b锚l yn 么l at ei golwr a llwyddo i benio'n daclus i'w rwyd ei hun i roi Cymru ar y blaen.
Er gwaetha'r patrwm ymosodol i'r t卯m a ddewisodd Ryan Giggs, ni lwyddodd Cymru i greu cyfle arall go iawn tan eiliadau ola'r hanner cyntaf pan gafodd Tom Lawrence ei rhyddhau yn y cwrt cosbi. Roedd y cyfle'n un gwych, ond aeth ergyd Lawrence yn syth i freichiau golwr diolchgar Azerbaijan.
Camgymeriad costus
Doedd hi ddim yn noson gyffyrddus i Gymru fodd bynnag, ac wedi 58 munud roedd yr ymwelwyr yn gyfartal.
Camgymeriad gan Neil Taylor ger y llinell hanner ddechreuodd y trafferthion, ac er i Wayne Hennessey arbed ergyd gyntaf Mahir Emreli, ond yr ymosodwr oedd y cyntaf i ymateb a rhwydo ar yr ail gynnig.
Fe ddaeth ymateb yn chwarae Cymru yn syth gyda Tom Lawrence, Dan James a Gareth Bale yn cael cyfleoedd i ergydio.
Gyda 11 munud yn weddill fe greodd James gyfle gyda chroesiad isel i'r cwrt, ond Connor Roberts yn methu rheoli'i ergyd ac yn tanio heibio'r postyn.
Ond roedd y pwysau i gyd yn dod gan Gymru bellach ac wedi 83 munud fe ddaeth y g么l hollbwysig i gadw ymgyrch y t卯m yn fyw.
Roedd ergyd gan Joe Allen wedi tasgu oddi ar sawl chwaraewr yn y cwrt, a Gareth Bale gododd yn uwch na phawb i benio'r b锚l i'r rhwyd.
Roedd chwarae Cymru'n fler ac fe gafodd Azerbaijan gyfleoedd eto cyn y diwedd i ddod yn gyfartal, ond fe ddaliodd Cymru eu gafael am y pwyntiau pwysig sy'n eu codi i'r trydydd safle yn y gr诺p.