大象传媒

Aelod Cynulliad yn cefnogi atal parcio ar y pafin

  • Cyhoeddwyd
Parcio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae parcio ar y pafin eisoes yn anghyfreithlon yn Llundain, ac mae Senedd Yr Alban ar fin pasio deddf i wahardd yr arfer yno hefyd

Mae ymgyrch i fynd i'r afael 芒 phroblem parcio ceir ar y pafin yng Nghymru wedi cael cefnogaeth gan yr Aelod Cynulliad Lee Waters.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu tasglu i ystyried sut i atal pobl rhag parcio ar y pafin.

Mae'r arfer eisoes yn anghyfreithlon yn Llundain, ac mae Senedd Yr Alban yn bwriadu creu deddfwriaeth i'w wahardd yn ddiweddarach eleni.

Ddydd Llun fe wnaeth Pwyllgor Trafnidiaeth San Steffan gyhoeddi adroddiad sy'n galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar draws Lloegr a chreu rheolau cryfach a chliriach ar barcio anghyfrifol.

Mae mudiad Living Streets Cymru wedi galw am waharddiad cyffredinol yma, heblaw am ganiat谩u parcio ar y pafin mewn strydoedd penodol.

Fe wnaeth yr elusen gynnal arolwg diweddar oedd yn awgrymu fod chwarter y bobl dros 65 oed yng Nghymru yn cael eu hatal rhag cerdded ar y pafin ar eu strydoedd lleol oherwydd rhwystrau.

'Ofn gadael eu cartrefi'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mr Waters: "Mae parcio ar y pafin yn broblem go iawn i'n cymunedau ac yn rhwystr i annog teithio corfforol.

"Rwyf am i bobl o bob oed a gallu deimlo'n hyderus a diogel wrth fynd ar deithiau bob dydd trwy gerdded neu feicio, gyda hynny yn ei dro yn ein cynorthwyo i daclo gordewdra, llygredd aer a'r argyfwng hinsawdd."

Mae Living Streets Cymru yn gofyn i'r cyhoedd fod yn rhan o arolwg i ddweud sut mae parcio ar y pafin yn effeithio arnyn nhw.

Bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu gyda thasglu Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ymchwilio i'r mater.

Dywedodd rheolwr y corff, Rhiannon Hardiman: "Mae parcio ar y pafin yn broblem i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd 芒 thrafferthion symudedd neu gyda'u golwg, rhieni gyda phramiau ac oedolion h欧n sydd efallai ofn gadael eu cartrefi am nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel.

"Yn ogystal 芒'i gwneud yn anodd i bobl ddefnyddio'u strydoedd, mae'n gallu achosi difrod i'r pafin sy'n gallu costio degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn i gynghorau eu trwsio.

"Rydym angen pafinau sy'n ddiogel a chlir er mwyn annog pobl o bob oed i gerdded mwy, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i atal yr arfer peryglus yma."