大象传媒

Afon Dyfrdwy: Dechrau ymgyrch i lanhau afon 'fregus'

  • Cyhoeddwyd
Afon Dyfrdwy yn Llangollen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Afon Dyfrdwy yn rhedeg drwy Llangollen

Bydd ymgyrch flynyddol i lanhau afon Dyfrdwy yn cychwyn ddydd Gwener wrth i drefnwyr geisio codi ymwybyddiaeth o'r difrod y gall plastig a gwastraff ei wneud.

Ers 2007, mae cannoedd o fagiau sbwriel wedi eu casglu yn ystod Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy - un o ddigwyddiadau cymunedol a chadwraeth mwyaf gogledd ddwyrain Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

Mae'r afon yn llifo drwy siroedd Gwynedd, Dinbych a Wrecsam ac yn Lloegr drwy siroedd Caer ac Amwythig.

Er nifer o welliannau ers 2007, mae trefnwyr yn dweud bod angen addysgu'r cyhoedd i fod yn gyfrifol wrth gael gwared ar blastig a newid eu hymddygiad.

Bygythiad i fywyd gwyllt

"Ar y dechra' mi o'dd 'na ddarne arnferthol o sbwriel yn cael eu tynnu o'r afon ac o'r foryd," meddai arweinydd t卯m gwasanaethau cefn gwlad Cyngor Sir Y Fflint, Helen Mroviec.

"Mi roedd yna lefel o sbwriel oedd wedi cronni achos bod neb wedi bod yn mynd i'r af'el efo'r broblem.

"Yn anffodus, 'dan ni yn gweld sbwriel sydd yn golchi mewn efo'r m么r ar lanw uchel... mae o'n gallu peri i fywyd gwyllt farw."

Mae'r trefnwyr hefyd wedi plannu coed a blodau gwyllt ar bwys yr afon a chymryd camau i gael gwared ar blanhigion sy'n meddiannu'r glannau - yn eu plith Jac y Neidiwr - planhigyn sy'n achosi difrod i lystyfiant brodorol.

Yn 么l y trefnwyr mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn fwy na chodi sbwriel - mae hefyd yn gyfle "i weithio gyda nifer o grwpiau cymunedol, ysgolion a gwahanol fusnesau".

Mae'r digwyddiad yn nodi dechrau wythnos o ddigwyddiadau glanhau ar hyd yr afon a'i dalgylch yn siroedd Wrecsam, Y Fflint, Caer ac Amwythig.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas o Gyngor Sir y Fflint: "Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy'n amlygu amgylchedd morol eithriadol ond bregus afon Dyfrdwy a'r angen i'w pharchu, ei gwerthfawrogi a'i gwarchod."