大象传媒

'Cefnogi gweinidogion wedi diswyddiad beth bynnag y rheswm'

  • Cyhoeddwyd
Bu farw Carl Sargeant yn Nhachwedd 2017
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Carl Sargeant ym mis Tachwedd 2017

Mae crwner y cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi argymell rhoi mwy o gefnogaeth i weinidogion y llywodraeth sy'n cael eu diswyddo, "beth bynnag y rheswm dros golli'r swydd".

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ddydd Gwener, ddiwrnod wedi i'r llywodraeth gyhoeddi pa newidiadau mewn nhw'n bwriadu eu gweithredu.

Mae'r argymhelliad yn rhan o adroddiad Atal Marwolaethau Pellach gan Uwch Grwner Gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins.

Fe gofnododd Mr Gittins ym mis Gorffennaf bod Mr Sargeant wedi lladd ei hun, ddyddiau ar 么l colli ei le yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Ddydd Iau, fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y byddai'r prif chwip yn cysylltu 芒 gweinidogion sy'n colli eu swyddi yn y dyfodol er mwyn gweld os oes angen cynnig cefnogaeth bellach.

Hefyd mewn ymateb i ganfyddiadau'r cwest bydd pecyn cyngor ymarferol yn cael ei roi i weinidogion sy'n gadael eu swyddi.

Cymorth 'boed yn fregus yn feddyliol ai peidio'

Dywed Mr Gittins yn ei adroddiad bod angen rhoi'r "sianeli priodol o gymorth" i unigolion amlwg sy'n cael eu diswyddo o'r llywodraeth, gan ei fod yn sefyllfa sy'n rhwym o gael sylw sylweddol yn y wasg a'r cyfryngau.

Ychwanegodd bod angen cynnig cefnogaeth "boed y person yna yn fregus yn feddyliol ai peidio" a "beth bynnag y rheswm dros golli'r swydd".

Clywodd y cwest bod Mr Sargeant, 49 yn byw gydag iselder wedi "digwyddiad bywyd yn 2012" ac ar dabledi pan gollodd ei swydd wrth i'r prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ad-drefnu ei gabinet.

Roedd hynny yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at ferched - cyhuddiadau roedd AC Alyn a Glannau Dyfrdwy yn eu gwadu.

Cafwyd hyd i'w gorff yn ei gartref yn Nhachwedd 2017 ddyddiau'n ddiweddarach.