大象传媒

Cyngor yn cefnogi cynllun gogledd M么n wedi ergydion diweddar

  • Cyhoeddwyd
Ffatri REHAUFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddwyd ym mis Ebrill bod ffatri REHAU yn Amlwch yn cau

Mae cynlluniau i geisio creu swyddi a chynorthwyo twf economaidd yng ngogledd Ynys M么n, ar 么l i'r ardal ddioddef sawl ergyd yn ddiweddar, wedi eu derbyn gan y cyngor sir.

Ddechrau'r flwyddyn dywedodd Hitachi, datblygwyr atomfa Wylfa Newydd, eu bod yn atal yr holl waith ar y cynllun ac ym mis Ebrill cyhoeddwyd y byddai 104 o swyddi yn cael eu colli wedi i Gr诺p REHAU gau eu ffatri yn Amlwch.

Yn ogystal mae llai o bobl bellach yn gweithio yng ngorsaf b诺er bresennol Wylfa.

O ganlyniad i'r ergydion mae uned datblygiad economaidd y Cyngor Sir wedi llunio cynllun gweithredu.

Mae Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys M么n wedi derbyn hwb ariannol wrth i'r Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA) addo 拢495,000 tuag at nifer o feysydd sef:

  • Creu cyflogaeth a swyddi;

  • Cefnogi'r diwydiant twristiaeth;

  • Gwella trafnidiaeth a chysylltedd;

  • Adfywio ardaloedd trefol a darparu cartrefi addas;

  • Sicrhau bod yr ardal yn elwa o'i amgylchedd a'i diwylliant naturiol.

Ddydd Llun fe wnaeth aelodau pwyllgor gwaith Cyngor Ynys M么n gefnogi'r cynllun adfywio.

Dywedodd llefarydd y bydd hynny'n galluogi uwch swyddogion i gymeradwyo ceisiadau am gyllid yn y dyfodol gan amrywiaeth o brosiectau cefnogol.

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr adeiladu atomfa Wylfa Newydd ac i gannoedd o swyddi parhaol gael eu creu

Cyn y cyfarfod, dywedodd Dylan Williams, Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol Cyngor Ynys M么n, bod y cynllun yn "rhoi llwyfan a chyfeiriad clir ar gyfer yr ardal".

"Dwi'n ddiolchgar i drigolion Gogledd Ynys M么n, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, y mae eu safbwyntiau a'u hadborth ar flaenoriaethau ar gyfer adfywio'r ardal wedi eu hymgorffori yn y ddogfen bwysig hon.

"Ymatebodd dros 650 o bobl i'r ymgynghoriad cyhoeddus, sy'n dangos cryfder y teimlad yn lleol a'r balchder sydd ganddynt yn eu cymunedau."

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Datblygu'r Economi a Phrosiectau Mawr: "Rydym wedi ymrwymo i greu swyddi a chefnogi twf economaidd yng Ngogledd Ynys M么n.

"Bydd hyn yn cymryd amser a llawer iawn o waith ond gall y cynllun newydd hwn ddarparu gwir ysgogiad ar gyfer adfywio economaidd yn yr ardal."