大象传媒

Cadeirydd S4C Huw Jones wedi 'brwydro' dros annibyniaeth

  • Cyhoeddwyd
Huw Jones

Mae cadeirydd S4C wedi disgrifio'r "brwydro" gyda Llywodraeth y DU i sicrhau annibyniaeth y sianel, ac wedi galw ar ei olynydd i barhau i ymladd dros y gwasanaeth.

Bydd Huw Jones yn gadael聽 S4C ar ddiwedd mis Medi, wedi wyth mlynedd yn cadeirio'r bwrdd.

Fe ddaeth i'w swydd ar adeg gythryblus i S4C yn 2011, a hynny'n dilyn toriadau'r llywodraeth i'w chyllideb a chynllun i greu perthynas agosach gyda'r 大象传媒.

Roedd wedi bod yn brif weithredwr ar y sianel o 1994 i 2005.

'Bygythiadau mawr'

Wrth gofio ei ddiwrnodau cyntaf fel cadeirydd, dywedodd Mr Jones iddo drio am y swydd oherwydd "roedd o'n teimlo fel tasa S4C y mynd trwy gyfnod o heriau sylfaenol, ac efallai roedd gennai'r profiad i gyfrannu at rai o'r atebion".

Ychwanegodd bod angen brwydro i ddiogelu S4C fel ag yr oedd hi.

"Achos roedd yr hyn oedd wedi cael ei gyhoeddi gan Jeremy Hunt yn 2010 - roedd yna ddau beth: yn ariannol ac yn sefydliadol roedd yna fygythiadau mawr.

"Roedd yna doriad o 25% - neu 33% yn dibynnu ar sut ydych chi yn ei ddehongli o - yn mynd i ddigwydd yn y cyllid, oedd yn fawr iawn.

"Ac mi oedd yna ddisgrifio sefyllfa o newid radical i strwythur S4C. Creu partneriaeth gydag ymddiriedolaeth y 大象传媒, a chreu patrwm reoli oedd yn mynd i olygu colli llawer iawn o annibyniaeth.聽

"Felly roedd hi'n teimlo, oedd, bod 'na angen brwydro er mwyn gwarchod yr annibyniaeth ac er mwyn creu rhyw fath o sefydlogrwydd o ran yr her ariannol hefyd."

Ffurfiwyd cytundeb gweithredu rhwng Ymddiriedolaeth y 大象传媒 ac S4C yn 2013, cyn i'r rhan helaeth o gyllideb S4C ddechrau dod o ffi'r drwydded.

Bu swm cymharol fach yn parhau i ddod gan y llywodraeth, yn ogystal 芒 pheth incwm masnachol.

Llwyddodd S4C i gadw annibyniaeth olygyddol a gweithredol, er gwaethaf pryderon rhai yn ystod y broses y gallai hunaniaeth y sianel ddiflannu.

"Mae annibyniaeth S4C yn bwysig oherwydd, yn un peth, dyna oedd y peth newydd a gr毛wyd yn '82.

"Roedd yna raglenni da yn cael eu gwneud cyn hynny, ond fe gr毛wyd gwasanaeth ac fe roddwyd addewid y byddai yna gorff 芒'r cyfrifoldeb unigryw.

"Dim ond poeni am S4C, am y gwasanaeth Cymraeg, oedd angen i'r corff yma ei wneud.

"Fuasai colli hynny, a cholli'r cyfle i weithredu yn gyfan gwbl er budd y Gymraeg, wedi bod yn golled fawr.

"Ar ben hynny mi fysa unrhyw syniad o golli cyfrifoldeb, neu drosglwyddo cyfrifoldeb am benderfynu faint o arian mae S4C yn ei gael, o'r llywodraeth ganolog i'r 大象传媒 wedi bod yn gam fawr yn 么l yn fy marn i."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Canolfan Yr Egin wedi ei lleoli ar d卯r Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin

Bellach mae S4C wedi bod drwy adolygiad annibynnol, ac wedi adleoli staff o Gaerdydd i adeilad Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Ers i Mr Jones gael ei benodi, ac i Ian Jones a bellach Owen Evans聽fod yn brif weithredwyr, mae'r gwasanaeth wedi ail-lunio ei hun i fod yn ddarparwr cynnwys ar amryw blatfform.

Ac mae natur S4C heddiw yn wahanol i'r hyn roedd Llywodraeth y DU yn darogan yn 2010, yn 么l Mr Jones.

"Dwi'n meddwl bod Jeremy Hunt wedi gosod her fawr, ond roedd y darlun oedd o yn ei beintio yn 2010 o ba fath o wasanaeth fyddai yna yn s么n am bartneriaeth rhwng S4C ac ymddiriedolaeth y 大象传媒, ond partneriaeth oedd yn amlwg yn un o ildio tipyn go lew o reolaeth, ar lefel ymarferol hefyd.

"Roedd yna s么n am annibyniaeth olygyddol yn parhau, ond dim s么n am barhad annibyniaeth weithredol. Ac felly mae'r ddau beth yna wedi cael eu sicrhau."

'Partneriaeth effeithiol'

Ychwanegodd bod "partneriaeth effeithiol" gyda'r 大象传媒 bellach, "sydd yn cydnabod annibyniaeth ei gilydd er bod un yn anferth a'r llall yn llawer llai".

"Ac mae lot fawr o ddoethineb wedi bod ar ochr y 大象传媒 i sicrhau bod hynny yn gallu digwydd - bod nhw yn gallu parchu annibyniaeth S4C tra bod S4C yn parchu yr angen i'r 大象传媒 fedru dangos ei bod nhw'n atebol i'r ffaith bod yr arian yma yn gorfod mynd drwyddo nhw."

Mae cyfweliadau ar gyfer olynydd Mr Jones yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae ganddo gyngor i'r person fydd yn ei ddilyn.

"Fydd S4C ddim byth yn gallu pwyso ar ei rhwyfau. Mi fydd 'na wastad gyfnodau lle mae angen 'neud y ddadl: pam fod y gwasanaeth yma yn dal i fod yn bwysig?聽

"Mi fydd hynny yn digwydd bob tro mae 'na setliad ariannol yn dod i fyny.

"Ond dwi'n hyderus hefyd.

"Os ydych chi yn mynd yn 么l reit i gychwyn S4C, 40 mlynedd bron, ac S4C yn cael ei sefydlu yn wyneb beth oedd yn ymddangos yn ddirywiad mawr yng nghyflwr yr iaith.

"R诺an, er bod yna heriau mawr, mae 'na lot fawr o obaith ac mae'r iaith yn llawer mwy canolog ym mywyd Cymru yn gyffredinol nag y mae hi wedi bod erioed."