大象传媒

Gwahardd capten Y Barri am chwe mis am ymddygiad ymosodol

  • Cyhoeddwyd
Jordan CotterillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae capten Y Barri wedi cael ei wahardd am chwe mis gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru yn sgil honiad o ymddygiad ymosodol at ddyfarnwr.

Daw'r gwaharddiad yn sgil digwyddiad yn y g锚m rhwng Y Barri a Phenybont yn Uwch Gynghrair Cymru ar 16 Awst.

Doedd Jordan Cotterill ddim yn bresennol yn y gwrandawiad, ond fe'i gafwyd yn euog o ymosod yn unol 芒 rheolau'r Gymdeithas.

Mae ganddo tan 25 Medi i apelio yn erbyn y gwaharddiad sydd mewn grym tan 21 Chwefror 2020.