大象传媒

Elusen newydd yn cael ei ffurfio i warchod hen gofeb

  • Cyhoeddwyd
Colofn Rodney
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae modd gweld Cader Idris o'r t诺r 54 troedfedd o uchder

Wrth deithio o'r Trallwng tua'r ffin gyda Swydd Amwythig mae bryniau Breiddin yn codi'n amlwg uwchlaw'r tir gwastad islaw.

Ar gopa un o'r bryniau sy'n codi o bentref Crigion mae hen gofeb.

Colofn Rodney yw ei enw, ac er ei fod wedi sefyll ar y bryn ers dros 230 o flynyddoedd mae gan bobl yr ardal bryderon yngl欧n 芒'i ddyfodol.

Mae hynny am fod craciau wedi ymddangos yn y t诺r, mae rhan o'r wal yn bolio ac mae gofid hefyd y gallai'r gofeb, sy'n 54 troedfedd o uchder, fod yn fregus mewn stormydd gan fod rhoden fellt oedd arni wedi cael ei dwyn.

Mae pobl leol wedi dod at ei gilydd i sefydlu elusen er mwyn codi arian i atgyweirio'r gofeb sy'n gyrchfan boblogaidd i gerddwyr.

Mae'r golygfeydd o'r copa yn drawiadol - mae Cader Idris a'r Rhinogydd yn amlwg, ac ar ddiwrnod clir gallwch weld mor bell ag Ellesmere Port.

Dywedodd Lucy Roberts, cynghorydd sir dros Llandrinio fod y gofeb yn rhan bwysig o'r ardal a bod angen gwneud popeth i'w ddiogel.

"Dw' i a'r teulu wedi cerdded at y gofeb ar y diwrnod cyn Nadolig bob blwyddyn yn ddi-ffael.

"Mae angen gweithredu ar frys, y peth mwyaf pryderus yw diffyg rhoden fellt.

"Oherwydd bod y bryn, sydd 1,200 troedfedd o uchder, gymaint yn uwch na'r tir o'i gwmpas a'r pilar ar ei ben, mae'n agored iawn i gael ei ddifrodi mewn storm."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhan o'r wal yn bolio

Mae'r bobl leol wedi casglu gr诺p o ymddiriedolwyr at ei gilydd ac maen nhw yn y broses o wneud cais i'r Comisiwn Elusennau i ffurfio elusen.

Ond mae'r swm sydd angen ei godi yn sylweddol.

Yn 么l astudiaeth dichonolrwydd, gafodd ei chynnal ar ran cynghorau cymuned yr ardal, fe allai'r holl waith gostio oddeutu 拢160,000.

Ond os nad yw'r gwaith atgyweirio yn cael ei wneud, mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai'r gofeb gwympo o fewn dwy flynedd.

'Cymleth a chostus'

"Byddai hynny'n drist iawn oherwydd pe bai'r golofn yn cwympo dw i'n amau a fyddai'n cael ei hail-godi.

"A dyna bwrpas yr elusen, i ddiogelu'r pilar i bawb ei fwynhau at y dyfodol," meddai'r cynghorydd Roberts.

"Mae yn swm mawr o arian, un o'r problemau yw cael mynediad at y safle a chael y deunyddiau adeiladu i fyny i ben y bryn.

"Mae natur y safle yn gwneud y gwaith yn fwy cymhleth a chostus. Ond ry'n ni'n benderfynol o gyrraedd y nod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe allai'r gwaith atgyweirio gostio tua 拢160,000

Does dim dwywaith bod Colofn Rodney yn agos at galonnau pobl ardal Crigion - ond pam mae'r gofeb restredig Gradd II yna o gwbwl?

Cafodd ei godi ym 1782, gydag arian wedi'i roi gan Fonheddwyr Sir Drefaldwyn, i gofio'r Admiral George Brydges Rodney.

Cafodd Rodney ei eni yn Surrey ac fe oedd yn arwain llynges Prydain yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America yn y ddeunawfed ganrif.

Cafodd sawl buddugoliaeth nodedig yn erbyn y Ffrancwyr yn y Carib卯.

'Er cof am admiral Rodney'

Dywed Bill Lee, cadeirydd yr ymddiriedolwyr sydd wedi byw yn yr ardal ar hyd ei oes, fod y cysylltiad gyda'r canolbarth yn deillio o goed lleol.

"Dywedon nhw wrthon ni pan oedden ni yn yr ysgol, a dyma'r stori dw i wedi clywed ar hyd fy oes, bod Admiral Rodney wedi prynu pren o goed derw o fryniau'r Breiddin ar gyfer ei longau.

"Dw i'n meddwl bod bonheddwyr Maldwyn wedi gwneud tipyn o arian o'r Admiral Rodney, ac roedden nhw am ddweud diolch wrth godi'r gofeb iddo fe."

Ac fel y gwnaeth pobl yr ardal ganrifoedd yn 么l mae trigolion presennol Sir Drefaldwyn am gadw'r cof am yr Admiral Rodney yn fyw drwy sicrhau y bydd y gofeb yn dal i sefyll am flynyddoedd eto.

Maen nhw'n gobeithio sefydlu'r elusen yn swyddogol yn ystod yr wythnosau nesaf a dechrau'r casgliad.

Yn y cyfamser, maen nhw'n gofyn am gefnogaeth gan unrhyw un allai gyfrannu arbenigedd at eu hymdrechion i ddiogelu dyfodol Colofn Rodney.