Mei Gwynedd: 'Dylsa fod miwsig yn hwyl!'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Mei Gwynedd wedi bod yn canu, cyfansoddi a pherfformio ers y 1990au, gan gychwyn gyda'r gr诺p ysgol Beganifs cyn sefydlu bandiau fel Big Leaves a Sibrydion.
Bu'r cerddor yn siarad ar raglen Richard Rees ar Radio Cymru am ei daith gerddorol.
Criw ifanc o Waunfawr, tu allan i Gaernarfon, oedd Beganifs. Mae'r enw Beganifs yn dod o bobl y Waunfawr yn dweud 'Be ga' i?' Pobl o Waunfawr wastad eisiau rhywbeth am ddim!
Roedd yn gyfnod diddorol yn y s卯n gerddoriaeth ac 'oedden ni'n lwcus i allu lledaenu'r gair yn hawdd yn yr ysgol - pan oedden ni'n chwarae 'oedden ni'n mynd 芒 100 o Gofis y dre draw i Borthmadog am gig.
O Beganifs i Big Leaves
Roedd Beganifs yn gweld bod bandiau eraill yn 'neud yn dda tu allan i Gymru ac oedden ni eisiau gwneud hefyd. Aethon ni i'r Iseldiroedd i chwarae gyda Ffa Coffi Pawb ac Anrhefn a chafon ni'n cyflwyno fel Big Leaves. Nathon ni licio hynny a sticio gyda'r enw.
'Naethon ni sawl trip gyda Catatonia i rai o'r llefydd mawr fel Brixton Academy. Roedd yn rili cyffrous. 'Oedd ein set ni'n hanner Cymraeg a hanner Saesneg. 'Oedden ni'n cael dipyn o stic gan Gymry Cymraeg am hynny ond 'oedden ni'n canu dipyn yn Gymraeg achos 'oedd rhai o'n caneuon gorau ni yn Gymraeg.
Diwedd Big Leaves
Wnaethon ni redeg ein cwrs yn y diwedd. Nath pethe ddim digwydd fel oedden ni eisiau ond gathon ni fynd i America ac Ewrop i chwarae. Dw i'n prowd iawn o'r band.
Cychwyn Sibrydion
Do'n i erioed wedi ffryntio band ond nes i roi go iddi gyda 'mrawd Osian (Gwynedd) tua 2003, yn fuan ar 么l Big Leaves. Gychwynnon ni Sibrydion ac roedd yn adeg hollol wahanol.
'Oedden ni'n ffeindio'n hunain n么l ar y cychwyn mewn bedroom studio, yn recordio ar laptop rhad. Dyna pam mae stwff buan Sibrydion mor eclectig. 'Oedden ni fel plant mewn siop da-das.
Tuag at ddiwedd Sibrydion o'n i mewn band arall o'r enw Y Peth gyda Rhys Ifans yn canu ac aelodau o'r Furries yn rhan ohoni. Roedd yn gyfnod gwyllt a gwirion a gathon ni chwarae Stadiwm y Mileniwm a chwarae gyda bandiau felOasis.
Roedd 'na 10 ohonan ni ac mi rodd o'n boncyrs a wnaeth o ddim para'n hir. O'n i'n ffrindia efo lot o'r band ac roedd Rhys yn cael gymaint o sylw efo paparazzi yn ei ddilyn o gwmpas.
Pobl ifanc
Tua'r un amser 'nath yr Eisteddfod godi ff么n a gofyn i fi gychwyn gwneud gweithdai gyda phobl ifanc Cymru.
Y syniad oedd bod fi'n rhoi gr诺p at ei gilydd i fynd i ysgolion ac i wneud gigs am gyfnod bach a dyna sefydlu Endaf Gremlin.
Mi roedd cychwyn gwneud gweithdai yn wych achos oedd 'na fyd newydd yn dod yn y s卯n roc Gymraeg ac roedd hi'n braf cael cydweithio gyda'r bandiau newydd yn dod drwodd.
Dw i'n mwynhau gweithio gyda phob oedran. Gyda phlant mae pob dim yn newydd ac yn gyffrous a dw i wrth fy modd efo hynny.
Dydy chwarae mewn bandiau ddim yn dy gynnal di, hyd yn oed pan ti ar dy orau. Ti'n cael ambell i gig sy'n talu'n dda ond ddim digon o arian i newid bywydau. I wneud bywoliaeth fel cerddor ti'n gorfod gwneud pethau gwahanol. Mae rhaid bod yn agored i gyfleoedd a dw i wedi mwynhau perfformio gyda Geraint Jarman a Elin Fflur yn ddiweddar.
Ysbrydoliaeth
Pan ti'n ifanc mae pob dim yn newydd. Ti'n mynd yn h欧n ac yn sylweddoli ar fwy o bethe o dy amgylch di.
Dylsa fod miwsig yn hwyl! Dw i eisiau i bobl ddeall be' dw i'n canu am - mae'n bwysig fod y cysylltiad yna.
Hefyd o ddiddordeb