大象传媒

Byw'n wyrdd ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Meg ac Awen yn casglu ffrwythau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meg ac Awen yn casglu ffrwythau

"Mae'n ddelfrydol cael byw mewn fath le. Y tawelwch dw i'n licio, mae mor hyfryd i fod mas yn natur."

Mae Meg a Ben a'u mab Awen yn byw ar gyrion Machynlleth ac yn ceisio byw bywyd gwbwl hunangynhaliol.

Mae eu ffrind Rhys yn byw gyda nhw gan helpu'r teulu i dyfu cynnyrch eu hunain ac i gynhyrchu ynni naturiol.

Disgrifiad,

Hanes teulu bach o Fachynlleth sy'n ceisio byw bywyd gwbl hunangynhaliol

Byd 'ofnus'

Dywedodd Rhys: "Mae'r byd yn newid i fod yn le ofnus. Mae ansicrwydd am bob math o bethau efo'r hinsawdd, sicrwydd bwyd, sicrwydd d诺r, sicrwydd ynni.

"Ac mae jest yn neis i allu gwybod 'da ni'n gallu sefyll allan o'r system a ddim gorfod dibynnu ar neud loads o arian i dalu am bopeth. Gallwn ni fod yn annibynnol ein hunain i ryw raddau. Mae'n teimlo'n rili neis.

"Mae o'n gallu bod yn tyff weithiau pan mae'r glaw a'r gwynt yn rili garw a mae'n rhaid i ti fynd tu fas i ddefnyddio'r compost toilet neu fynd i checio'r trydan. Ond mae'r holl waith caled werth o."

Hefyd o ddiddordeb