大象传媒

Galw am addysg rhyw gorfodol i blant mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Gwers ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwricwlwm newydd yn dod i rym yn 2022

Dylai gwersi am rywioldeb a chydberthynas fod yn orfodol mewn ysgolion, yn 么l ymgynghorwyr atal cam-drin domestig Llywodraeth Cymru.

Fe allai rhieni golli'r hawl i dynnu eu plant allan o wersi addysg rhyw o dan gynigion sy'n cael eu hystyried gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan a fydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) yn orfodol i blant rhwng tair ac 16 oed fel rhan o'r cwricwlwm newydd sy'n dod i rym yng Nghymru yn 2022.

Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebion i ymgynghoriad yn gwrthwynebu'r syniad, ond mae ymgynghorydd y llywodraeth, Yasmin Khan yn dweud "fe ddylai, yn ddiamod, fod yn orfodol".

Bydd ysgolion yn cael arweiniad fel bod plant yn cael gwersi RSE "priodol o ran oedran a datblygiad" ac mae'r llywodraeth hefyd wedi dweud eu bod "yn llwyr ddisgwyl i ysgolion ddysgu RSE sy'n gynhwysol i ddysgwyr LGBTQI+".

Fodd bynnag, roedd 1,428 - 87.5% - o ymatebion i'r ymgynghoriad yn erbyn dileu hawl rhieni i wrthod gwersi i'w plant. Roedd 166 - 10.2% - o blaid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Yasmin Khan bod angen i rieni fod yn rhan o'r paratoi ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm er mwyn osgoi protestiadau fel rhai diweddar yn Birmingham

Mae Ms Khan a'i chyd-ymgynghorydd, Nazir Afzal yn dweud bod angen i rieni fod 芒 rhan mewn paratoi ar gyfer newidiadau i'w cwricwlwm i osgoi protestiadau fel rhai diweddar yn erbyn rhoi gwersi am berthnasau LGBT mewn ysgolion yn Birmingham.

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae'r ymgynghorwyr yn dweud eu bod "yn manteisio ar arbenigedd o ran cynnwys menywod a theuluoedd i gyflwyno'r naratif croes i sicrhau bod dim cam-gyfathrebu neu gamddealltwriaeth" ynghylch RSE.

"Arweinwyr cymunedol honedig fu'r brif sianel yn y gorffennol ond mae hyn yn aml wedi profi'n ofer," maen nhw'n dweud.

'Hawl gan bob plentyn'

Ychwanegodd Ms Khan, sylfaenydd Project Halo sy'n helpu dioddefwyr trais ar sail anrhydedd: "Mae angen i ni sicrhau bod rhieni 芒 chyfrifoldeb a'u bod yn deall beth yw eu cyfrifoldeb a chynnwys y cwricwlwm."

"Rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth a ddylai fod yn orfodol. Rwy'n meddwl bod hawl gan bob plentyn.

"Os rydyn ni yna i warchod yr unigolion mwyaf bregus, gan gynnwys plant, yna mae gyda nhw hawl diamod i gael eu gwarchod.

"Addysg yw un o'r unig bethau gallen ni wneud i newid ymddygiad. Fe ddylai, yn ddiamod, fod yn orfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protest in Birmingham yn erbyn dysgu plant am hawliau LHDT

Dywedodd bod yna "lawer iawn o gam-gyfathrebu... a diffyg dealltwriaeth ynghylch union gynnwys y cwricwlwm".

"Unwaith y mae teuluoedd yn deall beth ydy'r cynnwys, gallen nhw ddechrau gwneud penderfyniadau gwybodus."

Dywedodd Mr Afzal, cyn-erlynydd sydd wedi helpu'r ymdrechion i gael cytundeb rhwng ysgolion a phrotestwyr yn Birmingham: "Yr ysgol yw'r lle gorau, yr amgylchedd mwyaf diogel, i bobl ifanc ddeall beth yw cydberthnasau, beth yw perthnasau da a beth yw camdriniaeth.

"Rydym yn paratoi, mewn gwirionedd, i osgoi'r un anghydfod yng Nghymru rydym wedi ei weld eisoes yn Lloegr.

"Mae Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau yng Nghymru yn mynd i gynnig arweiniad sydd wedi bod yn ddiffygiol yn Lloegr."

Ychwanegodd bod angen trafodaethau gyda grwpiau ffydd "sydd 芒 safbwyntiau ffwndamentalaidd iawn ynghylch be ddylid cael ei ddysgu".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd RSE "yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd i bob dysgwr" rhwng tair ac 16 oed.

Ond doedd swyddogion ddim yn gallu cadarnhau, cyn cyhoeddiad Ms Williams, a oedd hynny'n golygu y byddai'n orfodol i bob plentyn.