大象传媒

Cwpan Rygbi'r Byd: Awstralia 25-29 Cymru

  • Cyhoeddwyd
moriatyFfynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gorfoledd i'r Cymry wedi'r chwiban olaf yn Tokyo

Mae Cymru wedi curo Awstralia mewn g锚m gofiadwy a chyffrous i fynd ar frig Gr诺p D ym mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd.

Wedi perfformiad arbennig o gryf yn yr hanner cyntaf, roedd t卯m Warren Gatland 芒 15 pwynt o fantais ar yr egwyl yn Stadiwm Tokyo.

Ond bu'n rhaid i'r amddiffyn weithio'n galed am gyfnodau helaeth o'r ail hanner er mwyn aros ar y blaen, ac fe gaeodd Awstralia'r bwlch i un pwynt yn unig ar un cyfnod.

Ond 芒'r b锚l ym meddiant Cymru ar ddiwedd yr 80 munud roedd yna ryddhad wrth i'r eilydd, y mewnwr Tomos Williams ei chicio dros yr ystlys.

Daeth pwyntiau cyntaf Cymru wedi 36 eiliad yn unig o chwarae a g么l adlam gan Dan Biggar.

A Chymru wnaeth sgorio cais cyntaf y g锚m hefyd, gan olygu bod hi'n 10-0 wedi 13 o funudau.

Fe groesodd y canolwr Hadleigh Parkes yn y gornel yn dilyn cic wych gan Biggar, oedd hefyd yn llwyddiannus gyda'r trosiad.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hadleigh Parkes yn dathlu sgorio cais cyntaf y g锚m yn Stadiwm Tokyo

Daeth pwyntiau cyntaf Awstralia wedi cais gan yr asgwellwr Adam Ashley-Cooper, ac yna roedd yna gyfnod wedi hynny o chwarae agored cyffrous o naill ben y cae i'r llall gan y ddau d卯m.

Bu'n rhaid i Biggar adael y cae wedi 25 o funudau am asesiad i anaf posib i'w ben wedi tacl i atal cais gan ganolwr Awstralia, Samu Kerevi.

Daeth Rhys Patchell ymlaen yn ei le, gan ychwanegu chwe phwynt o fewn rhyw 10 munud wedi dau gic gosb i'w gwneud hi'n 16-8.

Gyda dau funud o'r 40 cychwynnol i fynd, fe sgoriodd y mewnwr, Gareth Davies gais gwych ar 么l rhyng-gipio a gwibio o leiaf 50 medr at y llinell.

Wedi trosiad llwyddiannus Patchell, roedd gan Gymru fantais addawol tu hwnt ar yr egwyl gyda'r sg么r yn 23-8.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sgoriodd Gareth Davies gais cofiadwy tua diwedd yr hanner cyntaf

Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner yn gryf hefyd, ac roedd yna g么l adlam fuan gan Patchell.

Ond roedd Awstralia hefyd yn ymdrechu'n galed i daro'n 么l a phum munud wedi i'r chwarae ailddechrau roedd hi'n 26-15 wedi cais Dane Haylett-Petty a throsiad Matt To'omua.

Roedd Gareth Davies yn parhau i achosi trafferthion i'w gwrthwynebwyr, ond roedd cyflymder gwyllt y chwarae yn dangos ei 么l ar y ddau d卯m ar brydiau.

Yn dilyn cyfnod hir o bwysau, fe groesodd capten y Wallabies, Michael Hooper wedi 61 o funudau, ac fe gauodd ail drosiad To'omua y bwlch i 26-22.

Saith munud yn ddiweddarach roedd Cymru ond un pwynt ar y blaen wedi cic gosb syml gan To'omua.

Roedd yna olwg ddigon pryderus ar wynebau t卯m hyfforddi Cymru a chefnogwyr, ond rhyddhad bum munud yn ddiweddarach wedi i gic gosb Patchell - yn dilyn cyfnod prin o feddiant i Gymru - wneud hi'n 29-25.

Ond yn ystod munudau olaf arteithiol i gefnogwyr Cymru, fe lwyddodd yr amddiffyn i sefyll yn gadarn gan sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn Tokyo.

Dywedodd Gatland bod yr ail hanner wedi bod yn "anodd, ond fe ddaethom ni drwyddi... diolch byth fe wnaethon ni ddal 'mlaen".