大象传媒

'Awyddus i wneud gwahaniaeth' ar fordaith o gwmpas y byd

  • Cyhoeddwyd
Paola Dyboski-BryantFfynhonnell y llun, Paola Dyboski-Bryant

Mae Paola Dyboski-Bryant, o Lanberis, yn paratoi i fynd ar daith hwylio sy'n ymchwilio i'r meicro-plastig yn y m么r.

Mi fydd hi ymhlith 300 o ferched eraill, sydd wedi eu dethol o dros 10,000 o dros y byd, ar daith eXXpedition yn ceisio dod o hyd i atebion am y plastig sydd yn y m么r. Fis Mawrth nesaf, bydd Paola yn ymuno 芒 nawfed cymal y daith, sydd yn mynd o gwmpas y byd, gan hwylio rhwng Ynysoedd Cook a Tonga.

Yma mae'n esbonio mwy am y daith, troi'n 50 oed a sut y mae hi am barhau i wneud gwahaniaeth:

Cefais fy magu yn yr Eidal, ger y m么r. Dwi bob amser wedi cael diddordeb mewn natur.

Fe ddechreuais i hwylio ar 么l gadael ysgol, ac mi es ar daith traws-Atlantig pan o'n i'n 24 oed. Roedden ni reit yng nghanol y cefnfor, ac mi oedd 'na fagiau plastig yn arnofio ar wyneb y d诺r. Ac mi roedd hynny 25 mlynedd yn 么l. D'on i methu credu'r peth.

Wedyn fe ddeallais i mai llongau cruise oedd yn gyfrifol am hyn, oherwydd bryd hynny, yr arferiad oedd iddyn nhw daflu eu sbwriel dros ochr y llong i'r m么r.

Y mwya' rwyt ti'n ei sylweddoli a'r mwya' rwyt ti'n ei weld, mae'n agor dy feddwl di. I mi, gweithredu oedd yn bwysig, a rydw i bob amser wedi bod yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Fe ddes i Gymru pan o'n i'n 26 oed a syrthio mewn cariad 芒'r wlad. Cefais fy mhlant yn gyntaf a wedyn gwneud fy ngradd mewn Twristiaeth Cynaliadwy a wedyn cwrs Masters mewn Cadwraeth M么r ym Mhrifysgol Bangor.

Sut cefaist dy ddewis i fynd ar y fordaith?

Fe gymerodd hi tua blwyddyn o wneud y cais gwreiddiol i gael fy nerbyn.

Roedd cymaint o ferched wedi ceisio, a dim ond 300 - o draws y byd i gyd - sydd wedi cael eu dewis. Yr hyn sy'n anghredadwy i fi, yw fy mod wedi cael fy newis o blith gr诺p mor anhygoel o ferched. O arweinwyr diwydiant, gwyddonwyr, merched mewn STEM [sef Science, Technology, Engineering a Mathematics] a phobl sy'n gwneud newidiadau mawr - mae'n gymaint o fraint i fi.

Mi fydda' i ar un cymal o'r daith rhwng Ynysoedd Cook a Tonga, rhwng mis Mawrth ac Ebrill y flwyddyn nesa'. Mae'r llong yn anhygoel, wedi ei pharatoi gyda offer ar gyfer ymchwil a byddwn ni'n casglu data, mae'n brosiect sy'n rhoi pwyslais ar ddod o hyd i ddatrysiadau ac atebion.

Ffynhonnell y llun, Angharad Griffiths

Beth ydych chi'n gobeithio ei ddarganfod?

Rydyn ni am godi ymwybyddiaeth ac edrych am atebion. Bydd pob merch yn dod 芒'i arbenigedd ei hun.

I fi, dwi'n gweithio gyda phlant, felly dwi'n gobeithio gweithio gydag ysgolion yma yng ngogledd Cymru, a byddaf hefyd yn gweithio gyda phlant yn Ynysoedd Cook ac yn Tonga, yn trio dod 芒 nhw at ei gilydd, rhoi llwyfan iddyn nhw fedru cyfathrebu gyda'i gilydd a gobeithio fyddan nhw'n gallu meddwl am syniadau.

Mae plant mor ddeallus ac yn meddwl y tu allan i'r bocs. Eu dyfodol nhw ydy o, eu planed nhw, felly mae'n rhaid gweithredu.

'Hyrwyddo merched mewn STEM'

Taith i ferched yn unig ydy hon ac un rheswm am hynny yw i hyrwyddo merched mewn STEM, oherwydd dydyn nhw ddim yn cael eu cynrychioli yn dda iawn fel arfer.

Hefyd, neges allweddol ydy, ei bod hi'n ymddangos bod meicro-blastics yn cael eu darganfod ymhob man, o ben yr Wyddfa i waelod y ceunentydd mwya' dwfn yn ein moroedd. Maen nhw i'w cael o fewn pob bod byw erbyn hyn, gan gynnwys ni ein hunain.

Maen nhw'n amharu ar ein hormonau, felly mae'n ymddangos eu bod nhw'n cael effaith penodol ar ferched. Rydyn ni angen dysgu mwy a gweithredu, oherwydd mae iechyd merched yn bwysig.

Ffynhonnell y llun, Paola Dyboski-Bryant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paola a'i mab Ziggy

Rwyt ti'n rhedeg cwmni Dr Zigs, sy'n cynhyrchu swigod eco gyfeillgar, beth yw'r cefndir?

Pan roedd fy mab ieuengaf Ziggy yn fabi, roedd o'n caru swigod. Roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth lle roeddwn yn gallu treulio amser gyda'r plant. Mi oedd y swigod yn gyfrwng perffaith, nid dim ond am ei fod yn greadigol, ond hefyd yr elfen o weithredu.

Rydyn ni am wneud teganau yn hwyl ac yn atyniadol, ond hefyd yn ail ddyfeisio'r tegan clasurol - sef swigod. R诺an rydan ni'n flaenllaw yn y byd yn gwneud tegan swigod sy'n foesol ac yn garedig i'r amgylchedd.

Mae Dr Zigs newydd lansio ymgyrch bubbles not balloons, oherwydd mae bal诺ns yn lladd adar m么r, yn enwedig yr holl fal诺ns sy'n cael eu rhyddhau ar un tro, mewn mass releases. Dwi eisiau gweld diwedd ar hyn, ac yn trio anfon y neges allan a gwneud i'r plant sylweddoli.

'Mae'r ardal yma yn anhygoel'

Gyda'r rhyfel yn Syria a chreisis y ffoaduriaid fwy fwy yn y newyddion, fe ddaeth criw o ferched yn lleol at ei gilydd a ffurfio 'Pobl i Bobl', yn cefnogi ffoaduriaid.

Mae pobl yr ardal yn dod 芒 dillad, teganau, beiciau a phob math o bethau yma, ac mae criw o wirfoddolwyr yn trefnu a phacio ac yna yn eu hanfon mewn llong neu eu dosbarthu i rai sydd eu hangen.

Mae yna gymuned anhygoel yng ngogledd Cymru. Mae pobl wir yn poeni, ac mae'n deimlad da i weld y gwahanaieth y gallwn ni fel cymuned gref ei wneud.

Fe wnest ti ddathlu dy ben-blwydd yn 50 yn ddiweddar, ydy hynny wedi gwneud i ti feddwl yn wahanol?

Mae'n flwyddyn fawr iawn i fi. Mae cael fy mhen-blwydd yn 50 wedi bod yn gyfle i feddwl, a gwneud i rywun werthfawrogi pa mor gyflym mae amser yn mynd a gwerthfawrogi bod bywyd yn werthfawr ac mae angen i mi wneud y mwya' ohono.

Dwi'n credu y gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth. Mae'r problemau yn anferth, pan ti'n edrych ar y moroedd a faint o blastig sydd yno, faint o ffoaduriaid sydd yna, ond mae pob gwahaniaeth bach yn help. A dwi am ddathlu hynny.

Hefyd o ddiddordeb: