Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iwan 'Iwcs' Roberts: Bywyd yn mynd yn ei flaen
Mae'r actor, y canwr a'r nofelydd Iwan 'Iwcs' Roberts yn siarad yn agored am ei waith a'i fywyd, gan gynnwys cyhoeddi ei nofel gyntaf, ei gyfnod fel rhan o'r ddeuawd boblogaidd Iwcs a Doyle, a cholli ei frawd mewn traseidi ar rig olew Piper Alpha.
Iwcs a Doyle
Ar ddiwedd y 1990au 'oedd Iwcs a Doyle yn boblogaidd. Mi wnaethon ni gannoedd o gigs a wnes i fwynhau o, ond 'oedd o'n reit galed erbyn y diwedd a doedd John (Doyle) ddim isho cario mlaen.
O'n i'n ffilmio Pengelli ar y pryd hefyd a doedd y ddau fyd ddim yn siwtio'i gilydd.
Mae gen i barch mawr mawr at dalent John. Fues i'n lwcus iawn - mi weithiodd Iwcs a Doyle yn dda. 'Oedd John yn chwaraewr mor dalentog, oedd o'n gallu cynnal fo a fi.
Ar y brig
Ein albwm Edrychiad Cyntaf yw un o'r albwms Cymraeg sy' wedi gwerthu mwya' erioed. Roedd ar frig y siartiau am flwyddyn.
Ac mae'n braf clywed pobl ifanc yn canu'r caneuon r诺an. 'Dydy caneuon da byth yn marw.
Dw i'n licio'r broses o greu ac mae'n rhoi boddhad mawr i mi.
Hanes trist tu 么l i'r g芒n
Mae 'na hanes trist tu 么l i'r g芒n Edrychiad Cyntaf (fe gollodd Iwan ei frawd Adrian yn y drychineb ar rig olew Piper Alpha ym M么r y Gogledd yn 1988).
'Dydan ni ddim wedi anghofio. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen rhywsut, mae bywyd yn gallu bod yn greulon iawn ond mae natur yn gallu bod yn ffeind iawn hefyd.
Roedd Adrian yn gweithio fel weldar i gwmni ym Mhorthmadog. Roedd o yng Nghaerdydd tri diwrnod cyn y drychineb a doedd o ddim isho mynd i'r rig. Roedd o wedi cychwyn teulu ifanc ac 'oedd ganddo fab, Sionyn, sy' erbyn hyn yn 33.
Roedd o'n un o'r rigs offshore mwya' ac yn cael ei bwydo gan dair rig arall. Pan aeth hi ar d芒n, roedd rhaid gwneud be' maen nhw'n ei alw'n 'contact the beach'. Aberdeen oedd y lle agosa', roedd hwnna 160 o filltiroedd i ffwrdd.
Ac fe wnaethon nhw gysylltu 芒 Chicago a gofyn iddynt gau y feed gas line - ond wrth gwrs d'on nhw ddim isho cau hi lawr achos roedd yn costio pres. Os fysa nhw wedi cau'r peipiau i lawr, bysa'r peth ddim wedi digwydd.
Ond mi chwythodd y rig.
Esgeulustod oedd yn gyfrifol. 'Oedd hi'n hen rig ac 'oedden nhw wedi ategu cymaint o beirianwaith ati hi - mae'n anhygoel beth ddigwyddodd a faint o flerwch oedd o.
Mae'n dal i frifo.
Colli fy nhad yn ifanc
Colli fy mrawd wnaeth effeithio ar Dad. Mae merchaid yn gryfach na dynion. Mi effeithiodd ar fy nhad yn bendant ac mi farwodd yn ddyn ifanc yn 57 oed.
Mae'n effeithio lot mwy na cholled un plentyn.
'Oedd colli Dad yn colli ffrind. 'Oeddan ni'n agos iawn erioed fel teulu - ac 'oedd ganddo ffraethineb y chwarel ac hiwmor gwych. 'Oedd o'n dipyn o gesyn ac yn dweud be' oedd o'n feddwl.
Efo'r sgwennu dw i'n gwneud, dw i'n clywed ei lais yn aml iawn ac mae'n helpu fi lot.
Dw' i'n meddwl am Mam yn hyn i gyd - mae'r dylanwadau maen nhw'n gael arno chi yn para am byth.
Magwraeth draddodiadol Gymreig
'Oedd saith ohono ni'n byw yn y t欧 yn Nhrawsfynydd ac 'oedd cerddoriaeth drwy'r amser. O'n i'n un o bump o blant ac 'oedd hi'n fagwraeth draddodiadol Gymreig - capel ac Eisteddfod.
Byw yn y wlad a chael mynd lle bynnag ti isho. Y rhyddid a s诺n yr afon, o'n i'n byw a bod wrth yr afon.
'Oedd fy nhad a mam yn ddarllenwyr mawr ac yn hoffi barddoniaeth ac 'oedd Dad yn dweud wrtha'i yn aml i ddarllen cerddi iddo. Roedd yna ddarllen a llyfrau a cherddoriaeth drwy'r amser, ac mae'n rhaid fod hynny'n creu argraff ar rhywun.
Cyhoeddi ei nofel gyntaf
Oedd y syniad gen i am rhyw bymtheg mlynedd, fel stori fer, ac mi ddechreuais i sgwennu.
Oeddwn i 'di bod yn gweithio ar Pobol y Cwm am yn hir iawn, ac o'n i'n teimlo mod i wedi gweithio yn ddigon hir ac oedd rhyw ysfa yndda i i eista' lawr a chael thro ar sgwennu a gweld sut fyddai'n mynd.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae genna' i nofel, Dal y Mellt, yn cael ei chyhoeddi, a dwi'n falch iawn o hynny.
Mae'n amser weithia' i rywun eistedd i lawr a phenderfynu be' mae o eisiau neud efo'i fywyd ei hun, felly dyna pam wnes i benderfynu trio sgwennu achos o'n i'n gwybod bydd bywyd yn mynd a dwi'n mynd i ddifaru peidio trio.
Dw i'n licio odlau a s诺n geiriau. Dyna pam dw i wedi ysgrifennu caneuon, barddoniaeth ydy caneuon i mi. Paentio efo geiriau 'di o.
Bydd Iwan Roberts yn cyflwyno cyfres ar nos Wener ar Radio Cymru, o Dachwedd 8 tan y Nadolig.
Hefyd o ddiddordeb