Rygbi merched: Cyhoeddi 14 heb gap yng ngharfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr t卯m rygbi merched Cymru wedi cyhoeddi 14 chwaraewr sydd eto i ennill cap rhyngwladol yn y garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref.
Bydd t卯m Rowland Phillips yn teithio i Sbaen, Iwerddon a'r Alban ac yn wynebu Crawshay XV gartref cyn g锚m yn erbyn y Barbariaid yng Nghaerdydd ar 30 Tachwedd.
Dywedodd Rowland Phillips: "Rydym wedi sicrhau ein lle yng Nghwpan y Byd 2021 yn barod, ein nod yw adeiladu carfan o chwaraewyr ifanc."
"Mae Cyfres yr Hydref yn gyfle arbennig i wneud hynny," meddai.
Mae'r g锚m yn erbyn y Barbariaid yn cyd fynd 芒 g锚m y dynion yn Stadiwm Principality.
Dyma fydd g锚m gyntaf Wayne Pivac fel hyfforddwr dynion Cymru wrth i Warren Gatland gymryd gofal o d卯m y Barbariaid.
Carfan merched Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref (*chwaraewr sydd heb ennill cap)
Blaenwyr: Alex Callender (Scarlets), Gwen Crabb (Gweilch), Amy Evans (Gweilch), Georgia Evans* (Gleision), Abbie Fleming* (Gleision), Cerys Hale (Gleision), Sioned Harries (Scarlets), Cara Hope (Gweilch), Jordan Hopkins* (Gleision), Gwenllian Jenkins* (Scarlets), Natalia John (Gweilch), Manon Johnes (Gleision), Kelsey Jones (Gweilch), Bethan Lewis (Scarlets), Siwan Lillicrap (Gweilch), Robyn Lock* (Gweilch), Carys Phillips (Gweilch), Gwenllian Pyrs (RGC)
Olwyr: Keira Bevan, (Gweilch), Angharad Desmet* (Scarlets), Alecs Donovan (Gweilch), Lleucu George (Scarlets), Courtney Keight* (Gweilch), Kerin Lake (Gweilch), Caitlin Lewis* (Scarlets), Ffion Lewis (Scarlets), Rebekah O'Loughlin* (Gleision), Kayleigh Powell* (Gweilch), Paige Randall* (Gleision), Catherine Richards* (Gleision), Lauren Smyth (Gweilch), Elinor Snowsill (Gweilch), Niamh Terry* (Gweilch), Megan Webb* (Gleision), Robyn Wilkins (Gleision)
Gemau Cymru:
3 Tachwedd: Sbaen, Madrid;
10 Tachwedd: Iwerddon, Dulyn;
17 Tachwedd: Yr Alban, Glasgow;
23 Tachwedd: Crawshay's, Glyn Ebwy;
30 Tachwedd: Barbariaid, Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017