大象传媒

Ffrae ym Mhen Ll欧n yn arwain at g诺yn am weinidog

  • Cyhoeddwyd
Porth Colmon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stephen Mackreth yn mynnu mai ef sy'n berchen ar y tir ble mae'r arwyddion wedi'u codi

Mae ffrae rhwng pysgotwyr a pherchennog tai haf dros fynediad i lanfa ym Mhen Ll欧n wedi arwain at g诺yn am un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yn 么l Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi torri'r cod gweinidogol trwy ymyrryd.

Mae gohebiaeth rhwng Ms Griffiths a Chyngor Gwynedd yn dangos ei bod wedi mynnu bod arwyddion yn cael eu tynnu lawr oddi ar dir yr honnir sydd dan berchnogaeth dyn sy'n byw yn ei hetholaeth.

Mae'n ymddangos fod Ms Griffiths wedi arwyddo'r llythyrau at Gyngor Gwynedd gyda'i theitl gweinidogol yn hytrach na'i theitl fel Aelod Cynulliad.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae proses cwyno mewn lle ond fe wnaethon nhw wrthod datgan os oedd y mater dan ystyriaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor wedi gosod arwyddion mewn lle yn dilyn cwynion gan bysgotwyr

Pan gwynodd pysgotwyr lleol fod y lanfa ym Mhorth Colmon yn rhy brysur fe gododd Cyngor Gwynedd arwyddion yn rhybuddio ymwelwyr i fod yn wyliadwrus rhag rhwystro mynediad i'r d诺r.

Ond yn 么l Stephen Mackreth, sy'n byw yn Wrecsam, cafodd yr arwyddion hyn eu codi ar ei dir o ac fe ysgrifennodd at ei AC, Ms Griffiths, yn gofyn iddi ymyrryd ar ei ran.

Yn ddiweddarach fe ysgrifennodd Ms Griffiths i Gyngor Gwynedd yn gofyn iddyn nhw dynnu'r arwyddion i lawr ac arwyddwyd y ddogfen gyda'i theitl gweinidogol yn hytrach na'i theitl fel AC.

Gall hyn awgrymu fod Ms Griffiths wedi torri'r cod gweinidogol gan fod yn rhaid i weinidogion gadw materion etholaethol a gweinidogol ar wah芒n.

'Defnyddio ei ph诺er fel gweinidog'

Yn 么l Ms Saville Roberts mae hi wedi gofyn i'r prif weinidog Mark Drakeford "godi hyn fel cwyn" gan ei fod yn groes i'r cod.

"Mae hi wedi ysgrifennu yn defnyddio ei ph诺er hi fel gweinidog i gario ei barn," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sion Williams yn gwrthod mai Mr Mackreth sy'n berchen ar y tir

Mae Sion Williams wedi pysgota ym Mhorth Colmon ers 33 o flynyddoedd ac mae'r ffrae yn "peri pryder" iddo.

"Mae fy mywoliaeth i a physgotwyr eraill yma," meddai.

"Mae gennai deulu i gynnal ac os allai ddim mynd o fan hyn i'r d诺r yn ddi-rwystr dwi methu ennill fy mywoliaeth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybuddion mewn lle i annog pobl i beidio rhwystro mynediad i'r d诺r

Yn 么l Mr Mackreth, sy'n honni i fod yn berchen ar y tir, mae o wedi cynnig gwerthu rhan ohono am 拢1 i'r pysgotwyr - ond mae Mr Williams yn mynnu nad ei dir o ydy o i'w werthu.

Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru dywedodd Mr Mackreth ei fod yn deall rhwystredigaeth y pysgotwyr a'i fod yn eu cefnogi.

"Da ni'n gwybod fod problemau wedi bod yn yr haf a bod y pysgotwyr yn straffaglu a dyma pan rydyn ni wedi cynnig y tir," meddai.

Gwrthod y gosodiad hwn mae Mr Williams.

Gweinidog wedi 'pwyso'

Mewn e-bost ddaeth i sylw 大象传媒 Cymru mae swyddog morwrol a pharciau gwledig Cyngor Gwynedd, Barry Davies yn nodi iddo fod mewn cysylltiad 芒 Ms Griffiths a'i bod hi wedi "pwyso" arnynt "i dynnu'r arwyddion oddi ar y safle".

Dywedodd fod y cyngor wedi "ceisio eu gorau i gynorthwyo".

Doedd swyddfa Ms Griffiths ddim am wneud sylw ar y mater ac yn 么l Llywodraeth Cymru does dim ymchwiliad ffurfiol ar hyn o bryd.