大象传媒

Cyhoeddi cartref newydd i 诺yl Tafwyl 2020

  • Cyhoeddwyd
TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr 诺yl yn symud o Gastell Caerdydd ar gyfer 2020

Mae trefnwyr Tafwyl wedi cadarnhau bydd yr 诺yl yn symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt y flwyddyn nesaf.

Mae Menter Caerdydd hefyd wedi cadarnhau bydd yr 诺yl yn cael ei chynnal rhwng 19 - 21 o Fehefin 2020.

Fe gafodd Tafwyl ei sefydlu'n 2006 fel g诺yl flynyddol sydd am ddim i ddathlu'r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd.

Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu dros y blynyddoedd o'r ychydig dros 1,000 o bobl yn y Mochyn Du yn 2006, i'r 37,000 fynychodd eleni.

'Uno cynulleidfa'

Dywedodd Manon Rees O'Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Mae cerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant yn ffyrdd gwych i ddod 芒 phobl at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau, boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, y rhai llai hyderus, dysgwyr a'r Di-Gymraeg.

"Mae'n uno cynulleidfa gan gynnig mynediad i bawb at y Gymraeg yn ein Prif Ddinas.

"Does unlle yn fwy amlwg na Tafwyl i ddangos hyn - sy'n ddathliad blynyddol balch iawn o'n hiaith," meddai.

Yn 么 Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas mae Tafwyl wedi "tyfu'n un o'r penwythnosau mwyaf poblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd."

Ychwanegodd: "Yn debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghaerdydd, mae Tafwyl wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Edrychaf ymlaen gyda phleser mawr i groesawu a mynychu Tafwyl 2020 yn y lleoliad newydd."